|
|||||
|
|
|
Cyfrifoldeb y Cyrff Gwleidyddol!Y cyfrifoldeb sydd ar y Cyrff Gwleidyddol i ateb yr argyfwng sy'n bodoli yng Ngymunedau Cymru. CYFRIFOLDEB Y CYNULLIAD CENEDLAETHOL A. Galw ar San Steffan am Ddeddf Eiddo 1. CYNYDDU CYMORTH I BRYNU Mae angen cynnydd enfawr yng nghyllideb y Cynulliad – a roddir i ddyblu cyfraniad Awdurdod Lleol o’r Grant Tai Cymdeithasol – er mwyn galluogi digon o deuluoedd i brynu tai mewn cymunedau Cymraeg i wneud gwahaniaeth. Nid yw’r gyllideb bresennol o tua £2 filiwn ond yn ddigon i dalu hanner gwerth 65 o dai ledled Cymru. Hefyd mae angen gwerthuso’r cynllun a’i dargedu at deuluoedd sydd â’r mwyaf o angen, gan fod tystiolaeth ei fod yn cael ei ddefnyddio fel ‘top-up’ yn unig ar y funud. 2. SEFYDLU HAWL I RENTU Hyd yn oed gyda’r cymorth uchod ni fydd prynu ty yn ymarferol i bawb. Mae angen creu cronfa gyfochrog i sefydlu Hawl i Rentu i deuluoedd mewn cymunedau Cymraeg. Defnyddir y rhan fwyaf o’r Grant Tai Cymdeithasol ar gyfer stadau newydd o dai gan Gymdeithasau Tai. Mae angen cronfa newydd i alluogi Cymdeithasau Tai i brynu tai sydd ar werth yng nghanol pentrefi i’w gosod i deuluoedd lleol. Mae newidiadau diweddar i Safonai Technegol yn gwneud hyn yn fwy ymarferol, ac fe hwyluswyd symud o gynllun rhentu at gynllun Cymorth i Brynu. Yn ôl y drefn hon, byddai teulu’n gwneud cais i rentu ty sydd ar y farchnad a byddai elfen o gymorthdal trwy’r gronfa newydd i sicrhau rhent teg. 3. CYNLLUNIO DYFODOL I GYMUNEDAU CYMRAEG Mae angen Nodyn Cyngor Technegol newydd gan y Cynulliad at Awdurdodau Lleol yn dangos iddynt sut i asesu anghenion lleol ac i wneud dyfodol y Gymraeg a chymunedau Cymraeg yn ganolog i’r Strategaeth Gymunedol newydd. Yn y modd hwn, gall holl ymdrechion Adrannau Cyngor ac Asiantaethau Cyhoeddus (o ran tai, cynllunio, trafnidiaeth, datblygu economaidd, addysg, cyfleusterau cymdeithasol a hamdden a gweithgareddau ieuenctid) gael eu cyfeirio at gynnal cymunedau Cymraeg. Dylai’r Cynulliad ddangos i Gynghorau Sir sut i lunio Cynlluniau Gweithredol dros ddyfodol cymunedau Cymraeg lleol mewn cysylltiad â’r Cynghorau Bro. Sefydlwyd y Cynulliad Cenedlaethol ar yr adeg pan y mae gennym ein cyfle ymarferol olaf i gynnal cymunedau Cymraeg hyfyw. Y mae’r dasg o bwys i bawb ohonom yng Nghymru, ble bynnag yr ydym yn byw. Mae angen i’r Cynulliad roi ei holl adnoddau ar waith i sicrhau dyfodol i’n cymunedau Cymraeg. CYFRIFOLDEB SAN STEFFAN 1. Gosod cyfrifoldeb statudol ar Awdurdodau Lleol i asesu’r angen lleol am dai. CYFRIFOLDEB Y CYNGHORAU SIR 1. Gwneud dyfodol yr iaith a chymunedau Cymraeg yn sylfaenol i’w Strategaeth Gymunedol. CYFRIFOLDEB CYNGHORAU BRO A THREF Cefnogi’r alwad ar Gynghorau Sir am Gynlluniau Gweithredu Lleol a chymryd rhan allweddol yn y gwaith o’u llunio a’u gweithredu. Ionawr 02, 2001 | Cymunedau Rhydd , Dogfennau |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| nôl i'r brig | ||||