|
|||||
|
|
|
Deddf Iaith Newydd i'r Ganrif NewyddDiwygiad 2001
Cyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Gorffennaf 2001
CRYNODEBMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau pasio Deddf Iaith Newydd fydd yn gosod seiliau i normaleiddio dwyieithrwydd yng Nghymru. 00. SYLWADAU CYFFREDINOLDylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau pasio Deddf Iaith fydd yn cydnabod:
Dylai'r Cynulliad sicrhau diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a sefydlu dau gorff democrataidd yn lle'r bwrdd sef Cyngor yr Iaith Gymraeg a Comisiwn Iaith, y naill i hyrwyddo, threfnu a gweinyddu'r Ddeddf a'r llall i fonitro gweithrediad y Ddeddf. Y nodEr mwyn sicrhau cydraddoldeb i'r Gymraeg a chyfle cyfartal i siaradwyr Cymraeg yng Nghymru rhaid dileu'r cysyniad 'Cymraeg wrth ofyn' a dim ond 'pan fo'n rhesymol ymarferol' fel a osodir yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993. Rhaid normaleiddio'r egwyddor o ddwyeithrwydd yng Nghymru gan sicrhau cydraddoldeb llawn a gwasnaethau trylwyr dwyieithog. Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn ddibynnol ar ewyllus da, dros y ddegawd diwethaf profwyd bod angen mwy na hynny i sicrhau dwyieithrwydd.01. CYNNWYS DEDDF IAITH NEWYDDMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gofyn am ddeddfwriaeth newydd i sicrhau'r canlynol: 01.1 Cydnabod y Gymraeg yn Briod Iaith CymruGalwn am ddatganiad cyfreithiol sy'n cadarnhau'r ffaith mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru.01.2 Cydnabod y Gymraeg yn Iaith Swyddogol yng NghymruGalwn am gydnabod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. 01.3 Darparu Gwasanaeth yn Gymraeg ym mhob SectorGalwn am yr hawl i dderbyn gwasanaeth ac i ymwneud â phob darparwr gwasanaeth yn Gymraeg. Galwn am yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle gan gynnwys yr hawl i ddysgu'r Gymraeg. Galwn am yr hawl i gael achos llys yn Gymraeg, a diwygio Deddf Rheithgorau 1974 (fel y'i diwygiwyd ym 1988) yn ôl yr angen.01.4 Darparu Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn GymraegGalwn am i'r Cynulliad Cenedlaethol sefydlu Tasglu Technoleg Gwybodaeth i ddatblygu adnoddau electronig yn Gymraeg ac i sicrhau bod mynediad rhwydd i'r rhain ym myd addysg, yn y gweithle ac ym mhob man arall. Nid yw'n dderbyniol fod rhaid i bobl droi at y Saesneg er mwyn cymryd rhan yn y chwyldro technolegol.02. CAMAU TREFNIADAETHOL02.1 Creu trefn weinyddu, monitro a chynllunio democrataidd sy'n atebol i bobl CymruGalwn am ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a sefydlu Cyngor yr Iaith Gymraeg i hyrwyddo'r iaith ac i ddwyn ynghyd cynrychiolwyr o'r holl sectorau sydd eisioes yn gweithredu polisïau o blaid y Gymraeg. Bydd hwn yn gorff statudol a bydd gorfodaeth ar bob pwyllgor pwnc ac adran o'r Cynulliad i ymgynghori â'r Cyngor wrth lunio a gweithredu polisïau. Bydd hwn yn gorff bydd yn ymgorffori'r gwybodaeth a'r ymarfer gorau parthed datblygu gwasanaethau dwyieithog. Bydd hyn yn digwydd ochr yn ochr a rhaglen waith pwyllgor llorweddol yr iaith Gymraeg.Dylai'r Cyngor hefyd gynnwys sefydlu Canolfan Safoni Termau Genedlaethol a Chorff Cynllunio Ieithyddol, gyda staff arbenigol i fod yn gyfrifol am lunio map sosio-ieithyddol o Gymru a pharatoi cyngor am hybu a gwarchod y Gymraeg, a chynlluniau tymor hir ar gyfer yr iaith fyddai â mewnbwn i holl bwyllgorau a holl adrannau y Cynulliad. 02.2 Strwythur matrics cyflawni'r Ddeddf IaithGalwn am greu matrics o lefelau cyrhaeddiad fydd yn seiliedig ar amrywiol ffactorau megis natur y gwasanaeth; adnoddau'r darparwr; nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg; lefel y cyswllt â'r cyhoedd; a'r defnydd o dechnoleg. Nid dros nos y bydd hinsawdd ieithyddol Cymru yn newid o blaid y Gymraeg. Bydd y matrics hwn yn ffordd o flaenoriaethu ble mae'r angen mwyaf a chreu amserlen er mwyn sicrhau sefydlu dwyiethrwydd llawn yng Nghymru a pharhad y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw. Cyngor yr Iaith fydd yn gyfrifol am lunio'r matrics. Y corff hwn fydd yn gosod targedau cyrhaeddiad penodol a chynyddol a'u monitro yn effeithiol a theg. Y nod yn y pendraw fydd sicrhau dwyieithrwydd trwyadl ym mhob agwedd ar fywyd ym mhob ran o Gymru.02.3 Gwneud Hybu'r Gymraeg yn un o Brif Ddyletswyddau'r Cynulliad CenedlaetholGalwn ar y Cynulliad Cenedlaethol i dderbyn ei gyfrifoldeb o ddiogelu'r iaith Gymraeg a gwneud hybu'r Gymraeg yn un o'i brif ddyletswyddau. Cyfeirir yn Gwell Cymru at y nod o greu Cymru ddwyieithog. Dylai Llywodraeth y dydd fabwysiadu holl arwyddocad y nod yma a sicrhau bod holl weithrediad y Cynulliad o ran ei adrannau a phwyllgorau yn cyfrannu at gyflawni'r nod yma yn unol â'r weledigaeth o greu gwell Cymru mewn difrif.Galwn am ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 1998 drwy ychwanegu adran debyg i adrannau 120 a 121 ynghylch gwarchod a hybu'r Gymraeg. Byddai hyn yn peri i'r Gymraeg droi'n bwnc llorweddol yn y Cynulliad yn hytrach nag yn un pwnc yn unig. Byddai'r Gymraeg yn ffactor o bwys wrth lunio polisi ym mhob maes felly ac nid yn cael ei hynysu fel testun ar gyfer diwylliant neu addysg yn unig. 03. ESBONIO EGWYDDORION DEDDF IAITH03.1 Cydnabod y Gymraeg yn Briod Iaith Cymru03.1.1 Y Gymraeg yw priod iaith Cymru. Mae hi'n etifeddiaeth gyffredin i holl drigolion Cymru, boent yn siaradwyr Cymraeg ai peidio. Mae gan y Gymraeg berthynas unigryw â Chymru. Mae hi'n un o'r elfennau sy'n gwneud Cymru yn arbennig fel gwlad ac felly mae hi'n symbol grymus o'r hunaniaeth Gymreig. 03.1.2 Mae Cymru'n wlad amlieithog, fel y bu erioed i raddau gwahanol rhwng ieithoedd y Rhufeinaid, y Gwyddelod, y Llychlynwyr, y Saeson, y Normaniaid a'r Fflemingiaid a'r ieithoedd a siaredir gan gymunedau ethnig Cymru - ond drwy gydol ei hanes mae'r Gymraeg wedi bod yn gyfrwng byw ac yn brif sail ein hunaniaeth genedlaethol. Mae gan Gymru ei thimau rygbi a phêl-droed ei hun, ei hanthem genedlaethol ei hun, ei sefydliadau, gan gynnwys ei chynulliad ei hun, a'i hiaith ei hun. Nid Cymraeg yw ei hunig iaith, ond hi yw ein 'hiaith genedlaethol'.03.1.3 Nid yw'r egwyddor hon o briod iaith yn un unigryw i Gymru. Dyma'r egwyddor sylfaenol y tu ôl i ddeddfwriaeth ieithyddol yng Ngwlad y Basg a Chatalunya yn ogystal â'r Datganiad Byd-eang o Hawliau Ieithyddol a gyflwynwyd i UNESCO. [1] 03.2 Dyfodol i'r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw03.2.1 All iaith ddim bodoli mewn gwagle. Rhaid wrth seiliau economaidd cryf a chynllunio cymunedol i greu a chynnal cymunedau. Ni fydd y Gymraeg fyw os nad oes cymunedau yn ei defnyddio. Credwn fod rhaid wrth Ddeddf Eiddo i sicrhau mynediad teg i bobl leol yn y farchnad dai. [2]03.3 Cydnabod y Gymraeg yn Iaith Swyddogol yng Nghymru03.3.1 Mae angen dynodi beth yw ieithoedd swyddogol Cymru fel rhan o'i hunaniaeth greiddiol. Byddai'n gam symbolaidd i ddangos y gwerth rydym yn rhoi ar ein iaith ac yn arwydd clir i'r byd y tu allan fod Cymru'n wlad ddwyieithog a fod angen gwasanaethau dwyieithog arni. Byddai darparwyr gwasanaethau a masnachwyr yn ymwybodol o fodolaeth yr iaith Gymraeg a dyhead pobl Cymru i greu dyfodol iddi. Nid oes rheidrwydd felly i drin y ddwy iaith yn gyfartal. Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn rhoi dilysrwydd cyfartal i fersiynau Cymraeg a Saesneg o ddogfennau a awdurdodir gan Weinidogion y Goron ac, oddiar 1999 gan y Cynulliad Cenedlaethol, ond nid yw'r Ddeddf yn ymdrin yn benodol â statws cyfreithiol dogefnnau preifat sydd â goblygiadau cyfreithiol. 03.3.7 Wrth i'r Undeb Ewropeaidd ehangu i'r dwyrain, fe fydd nifer ychwanegol o ieithoedd yn dod yn rhan o'r system Ewropeaidd. Ar hyn o bryd 11 iaith swyddogol sydd, ond gyda phob gwladwriaeth newydd daw o leiaf un iaith arall yn ei sgil. Dyma gyfle i ieithoedd fel y Gymraeg, Basgeg, Catalaneg ac ati geisio cydnabyddiaeth ar lefel Ewropeaidd. Ar hyn o bryd mae Senedd Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd yn gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion a chymunedau Ewrop sy'n siarad iaith wahanol i iaith swyddogol eu gwladwriaeth drwy gau yr ieithoedd hyn allan o rai rhaglenni gwariant. 03.4 Cydnabod yr angen i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg ym mhob sector03.4.1 Nid statws y darparwr sy'n bwysig yn hyn o beth boed yn gyhoeddus, yn breifat, neu'n wirfoddol ond y ffaith eu bod yn cynnig gwasanaeth i'r cyhoedd. Dylai'r cyfrifoldeb i ddarparu gwasanaeth Cymraeg fod yn ddibynnol ar natur y gwasanaeth ac nid ar natur y darparwr. Dim ond wedyn y rhoddir cyfle cyfartal i siaradwyr Cymraeg. 03.4.2 Diffyg amlwg yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 yw nad yw'n cynnwys gwasanathau a ddarperir gan y sector preifat a gwirfoddol. Mae'r ffin rhwng yr hyn sy'n 'breifat' a'r hyn sy'n 'gyhoeddus' yn llawer llai eglur erbyn heddiw gan fod llawer o'r hen gyfleustodau cyhoeddus (dwr, nwy, trydan, y rheilffyrdd) wedi'u preifateiddio a does dim hawl gan gwsmeriaid i dderbyn gwasanaeth yn y Gymraeg ganddynt. Mae rhai gwasanaethau o bwys bellach yn cael eu darparu gan fudiadau gwirfoddol. 03.4.3 Dadleuir nad oes hawl gan y Wladwriaeth ymyrryd yn y farchnad rydd, ond credwn ei bod yn ddyletswydd ar y Wladwriaeth i ddiogelu hawliau sylfaenol y rhai mwyaf difreintieidig mewn cymdeithas. Nid yw allgau cymdeithasol yn llesol. Mae deddfwriaeth i ddiogelu hawliau menywod, lleifafrifoedd ethnig, pobl anabl a'r amgylchedd eisoes yn bodoli ac yn effeithio ar fusnes a diwydiant. 03.4.4 Mae modd cynorthwyo busnes a diwydiant i gydymffurfio â deddfau newydd drwy ostwng trethi busnes a chyflwyno'r newidiadau yn raddol dros gyfnod o amser. Credwn bod angen creu strwythur matrics o lefelau o gyrhaeddiad derbyniol a hynny'n ddibynol ar natur y gwasanaeth sy'n cael ei gynnig; adnoddau'r darparwr; nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg; lefel y cyswllt â'r cyhoedd; a'r defnydd o dechnoleg.03.4.5 Mae gweithlu dwyieithog yn meddu ar fwy o sgiliau na gweithlu uniaith. Gwelir yn Sbaen mai'r ardaloedd sydd â ieithoedd eu hunain yw'r rhai mwyaf ffyniannus yn economaidd, a bod llwyddiant economaidd yn mynd law yn llaw â pholisïau cryf o normaleiddio'r iaith. Mae polisïau cryf o blaid yr iaith yn creu marchnadoedd mewnol newydd na all cystadleuwyr o'r tu allan eu cyflenwi gan roi mantais i ddiwydiant cynhenid. 03.5 Cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg yn yn chwyldro technolegol03.5.1 Mae chwyldro'r Rhyngrwyd a gwasanaethau electronig wedi gweddnewid y ffordd rydym yn cyfathrebu â'n gilydd ac â chyrff cyhoeddus a busnesau. Ond ddaeth y Ddeddf Iaith ddiwethaf i rym cyn i oblygiadau hynny ar ein bywydau ddod yn amlwg. Nid yw Deddf Iaith 1993 yn cyffwrdd â datblygiadau newydd fel y We Fyd-Eang a gwasanaethau dros-y-ffôn. Mae angen sicrhau lle i'r Gymraeg yn y byd electronig newydd, neu bydd y Gymraeg yn cael ei gadael ar ôl unwaith eto.03.5.2 Gan nad yw Deddf Iaith 1993, na'r cynlluniau iaith a greuwyd yn ei sgîl, yn sôn am wasanaethau electronig, mae rydd hynt i gyrff cyhoeddus yng Nghymru anwybyddu eu cyfrifoldebau i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i'r cyhoedd yn y maes hwn. Mae ugeiniau o engreifftiau o gynghorau sir ac adrannau llywodraethol, er enghraifft, sydd â gwefannau uniaith Saesneg er bod ganddynt gynlluniau iaith a gymeradwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Ac wrth i'r Cynulliad a San Steffan symud at ddarparu gwasanaethau llywodraethol ar-lein, y tueddiad yw i anghofio am y Gymraeg. Mae angen adolygu cynlluniau a pholisïau iaith presennol i sicrhau eu bod yn ymdrin â gwasanaethau electronig, a sicrhau bod ystyriaeth i'r Gymraeg wrth gynllunio unrhyw brosiectau ar-lein newydd. 03.5.4 Mae technoleg newydd yn gallu bod o fudd enfawr wrth addysgu, ond gwelwn perygl gwirioneddol i'r rheiny sy'n astudio trwy'r Gymraeg fod o dan anfantais wrth ddefnyddio CD-ROMiau ac adnoddau ar-lein i gynorthwyo â'u gwaith. Mae gwyddionaduron, cyfeirlyfrau ac adnoddau electronig di-ri ar gael yn Saesneg i annog dysgu, tra fod adnoddau cyffelyb yn y Gymraeg yn brin. Gall ddisgybl cyfrwng Saesneg droi at Encarta neu gyhoeddiadau tebyg wrth wneud ymchwil ar gyfer gwaith - rhaid i ddisgybl cyfrwng Gymraeg fod yn gyfieithydd hefyd os yw am wneud yr un fath. Dim ond ambell i gyhoeddiad electronig sydd ar gael i'r dosbarth yn y Gymraeg: dylid annog, cefnogi a chynorthwyo sefydliadau fel y prifysgolion a chynghorau sir i ddarparu deunydd addysgol newydd ar-lein ac ar ffurfiau electronig. 04. CYFRIFOLDEB Y CYNULLIADYr unig ffordd i normaleiddio dwyieithrwydd yng Nghymru yw trwy Ddeddf Iaith berthnasol a pholisïau blaengar. Gan Lywodraeth Cymru mae'r cyfrifoldeb i sicrhau fod hyn yn digwydd. RHAN II - ATODIAD05. BARN GWLEIDYDDION CYMRU AR DDEDDF YR IAITH GYMRAEG 1993Yn ystod y drafodaeth ar y mesur yn Nhy'r Cyffredin yng Ngorffennaf 1993 dywedodd Wyn Roberts, '
y mae'r iaith Gymraeg yn Iaith swyddogol yn y wlad hon. Nid oes angen datgan hynny mewn cyfraith. Nid yw'n cael ei ddatgan mewn cyfraith yn achos y Saesneg. Mae'r Saesneg hefyd yn iaith swyddogol.' Y methiant hwn i ddatgan yn gwbl ddigamsyniol statws swyddogol y Gymraeg oedd un o brif gwynion nifer o AS Cymru. Siom i Cynog Dafis (Plaid Cymru) oedd 'the failure to make an unequivocal declaration of official and equal status.' Pwysleiodd Donald Anderson (Llafur), '
we want Welsh to have the same status as English.' Os ydyw'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru yna pam na ddylid datgan hynny mewn cyfraith? Ni all y Gymraeg fod yn gyflawn gydradd â'r Saesneg yng Nghymru os na wneir hynny. 06. BETH GELLIR EI WNEUD AR UNWAITH06.1 Datgan staws swyddogol i'r Gymraeg a chydnabyddiaeth iddi fel priod iaith CymruYn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 1998 gall y Cynulliad 'ystyried unrhyw fater sydd yn effeithio ar Gymru' gan 'gyflwyno penderfyniadau priodol'. [6] Mae geiriad yr Adran hon o'r Deddf yn ddigon eang i gynnwys penderfyniadau ar ffurf drafft o Ddeddf Seneddol, gan gynnwys deddfwriaeth yn ymwneud â'r iaith, i'w gyflwyno i'r Senedd drwy ddealltwriaeth gyda'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Aelodau Seneddol Cymreig.Rhydd Deddf Llywodraeth Cymru yr hawl i'r Cynulliad i wneud 'beth bynnag y mae'n ei ystyried yn briodol i gefnogi yr iaith Gymraeg.' [7] Mae hwn yn allu penagored y gellir ei ddefnyddio yn adeiladol, er enghraifft, yn annibynnol ar Senedd Westminster y mae modd i'r Cynulliad ei hun wneud datganiad cynhwysfawr yn cyhoeddi natur unigryw yr iaith Gymraeg fel iaith hanesyddol y genedl ers mwy na mileniwm a hanner ac yn un o ddwy iaith swyddogol Cymru yn gydradd â'r Saesneg, yn rhan o'n treftadaeth ac yn eiddo i holl bobl Cymru 06.2 Siarsio Bwrdd yr Iaith Gymraeg i gynnwys y sector preifat ar unwaithO dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, mae hawl gan y Cynulliad i wneud Gorchymyn Statudol (is-ddeddf) i ychwanegu enw unrhyw gorff cyhoeddus sydd, yn ei dyb, yn ymarfer swyddogaethau o natur cyhoeddus at restr y rhai y cyfeirir atynt yn y Ddeddf. Gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg yna roi rhybudd iddynt i baratoi a chyflwyno Cynllun Iaith. [8] Y diffiniad clasurol yw corff (boed hwnnw'n adran o'r llywodraeth, yn awdurdod cyhoeddus neu'n gwmni masnachol) 'a chanddo ddyletswyddau i'w cyflawni er budd y cyhoedd'. Os yw corff felly dan ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru (hyd yn oed os yw hefyd yn darparu gwasanaethau tebyg yn Lloegr) y mae'n dod oddi mewn i'r categori o gyrff y gellir eu rhoi ar restr y rhai y gall Bwrdd yr Iaith eu gorfodi i gyflwyno Cynllun Iaith. Ymhlith y cwmnïau hyn y mae cwmnïau y mae eu gweithgareddau yn effeithio'n drwm ar fywyd beunyddiol pobl Cymru wrth iddyn nhw gyflawni dyletswyddau statudol a gyflawnir gan y cyfleustodau cyhoeddus a breifateiddiwyd sef nwy, trydan, dwr, telathrebu a rheilffyrdd. At y rhain gellid ychwanegu trafnidiaeth gyhoeddus - y cwmnïau bysus, Cownteri'r Swyddfa Bost, a rhai cyrff na fuont erioed yn ganghennau o'r llywodraeth nac unrhyw awdurdod cyhoeddus megis banciau a chymdeithasau adeiladu. Gall y Cynulliad felly fynnu bod cwmnïau preifat sy'n darparu gwasanaeth yn cael eu dwyn i fewn i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn syth.06.3 Dileu cymalau o reolau sefydlog y Cynulliad sy'n gwahaniaethu yn erbyn y GymraegOs yw'r Cynulliad am gymryd unrhyw gam dan Adrannau 32 neu 33 er mwyn rhoi grym i'r egwyddor fod y Gymraeg i'w thrin ar dir cyfartal â'r Saesneg yna mae'n holl bwysig fod pwyllgor penodol ar yr Iaith Gymraeg yn cael ei sefydlu i ymwneud yn benodol â'r defnydd o'r Gymraeg yn a gan y Cynulliad. Mae'n bwysig hefyd fod y Cynulliad yn ufuddhau i'w Gynllun Iaith ei hun.Ôl-nodiadau
Mwy yn yr un categori(au):
Deddf Iaith
|
Dogfennau
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||
| nôl i'r brig | ||||