hafan cymdeithas.com  
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Deddf Iaith Newydd
Cymunedau Rhydd
Addysg
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Codi Arian
Y Cyf Cyff
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Nwyddau
Rhygwladol
Y Senedd
Y Tafod

Gwasg
Gwleidyddion

Pages in English
 

Ymateb CYIG i Gynllun Iaith PCA

pca3.jpg
YMATEB CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG I GYNLLUN IAITH GYMRAEG COLEG PRIFYSGOL CYMRU ABERYSTWYTH

  • 1 (1) Apologia dros sefydliad sylfaenol Saesneg . Ymddengys fod y ddogfen hon ar ran y Coleg wedi’i chyfansoddi’n bennaf er mwyn ceisio ateb gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg yn hytrach nag fel sail i drawsnewid natur ieithyddol y sefydliad ei hunan. Y duedd drwyddi’i gyd yw ceisio crynhoi ynghyd pob defnydd real, potensial neu anhebygol a wneir o’r Gymraeg gan obeithio y bydd cyfanswm y rhannau’n cael ei dderbyn fel strategaeth gyfan. Yr argraff llethol a roddir yw darpariaeth a chynlluniau cwbl dameidiog a methiant unrhyw strategaeth integreiddiedig.
  • 1 (2) Mae realiti profiad o’r sefydliad yn dangos ei bod yn sefydliad sylfaenol Saesneg sy’n ceisio ffurfio ffrynt dwyieithog er mwyn creu Cynllun Iaith. Cymerwn wefan y coleg. Tudalen o groeso Saesneg sy’n wynebu’r sawl a geisia www.aber.ac.uk gyda botwm bach Cymraeg ar y top. Dyma egluro’n syth mai sefydliad Saesneg sydd yma gyda darpariaeth Gymraeg ar gyfer y sawl sy’n chwilio ac yn gofyn amdani. Mae’r sawl sy’n chwilio yn cael yn syth fod y ddarpariaeth Gymraeg honno’n gyfyngedig iawn e.e. ar dudalen Cyhoeddiadau / Publications y wefan, mae modd darllen a llwytho i lawr pob adran yn Saesneg ond lleiafrif bach yn unig yn Gymraeg – gan adael allan meysydd mor allweddol ag Astudiaethau Ewropeaidd, Celf, Gwyddor Amgylchedd a hyd yn oed Llety yn Aberystwyth ! Dyma ddatgelu, wrth y cysylltiad cyntaf, wir natur y coleg ac ni byddai gwireddu gofynion y Cynllun Iaith – yn ei ffurf drafft – yn newid y realiti hwnnw’n sylfaenol.
  • 1 (3) Mae pawb sydd yn gweithio neu’n astudio yn y Coleg, neu mewn cysylltiad ag ef, yn deall mai Saesneg yw iaith y mwyafrif llethol o'r gweinyddu a'r’addysgu. Er bod y Coleg wedi’i leoli mewn sir lle mae dros hanner y boblogaeth yn Gymraeg eu hiaith, ac mewn gwlad lle mae 20% o’r boblogaeth yn medru’r iaith, ni byddai’r Cynllun Iaith yn sicrhau fod cyfanswm y gweinyddu na’r addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn dod yn agos at y canrannau hyn. Dyma ragfarnu ymddangosiadol yn erbyn y Gymraeg gan y coleg fel sefydliad.

  • 2 (1) Mae Seisnigrwydd y Coleg yn codi o natur y sefydliad. Nid yw’r anghysondeb hwn na’r tan-ddefnydd o’r Gymraeg yn codi o ragfarnu personol. Mae wedi’i sefydliadoli’n hytrach yn natur y coleg ei hun. Nid yw cymeriad ieithyddol y coleg yn adlewyrchu cymeriad ieithyddol y sir na Chymru oherwydd ni wel y coleg ei swyddogaeth yn ymarferol fel gwasanaethu Ceredigion na Chymru beth bynnag a hawlir yn ei gendadwri. Datgenir yn y cenadwri hwnnw:
      “Mae gennym gyfrifoldeb arbennig tuag at anghenion Cymru, ac yr ydym yn ymwybodol iawn o’r rhan sydd i ni wrth gynnal diwylliant cynhenid Cymru a’r iaith Gymraeg. At hynny, yr ydym yn ymwybodol o’n cyfrifoldeb tuag at y gymuned leol yr ydym yn rhan ohoni…….”

    Eto i gyd, mae’r coleg yn ymarferol yn gweld ei hunan yn rhan o rwydwaith mwyfwy cystadleuol o sefydliadau addysg uwch ar raddfa Brydeinig, a Saesneg yw cyfrwng naturiol cystadlu o’r fath. Mae cyllid ac einioes y sefydliad yn ddibynnol ar ei lwyddiant cystadleuol ac ymylol iawn felly yw ei ymrwymiad fel sefydliad i hybu buddiannau Ceredigion na Chymru – boed o ran hybu iaith, datblygiad economaidd na pharhad cymunedau lleol.
  • 2 (2) Mae staff yn cael eu denu o Brydain yn gyffredinol i weithio mewn fframwaith Prydeinig a Saesneg. Diddorol fyddai darganfod canran y penodiadau gweinyddol a dysgu o du allan i Brydain. A ydyw’r coleg yn gaer o Brydeindod ?. Felly hefyd y myfyrwyr y mae cyllido’n ddibynnol arnynt. Mewn cyd-destun felly y mae Cynllun Iaith yn gonsesiwn yn hytrach nag yn egwyddor. Amlygir hynny trwy holl ddrafft y Cynllun.
  • 2 (3) Nid yw cynnwys y cyrsiau’n arbennig o berthnasol i Geredigion nag i Gymru ac, o ganlyniad, nid yw’r ffynonellau’n Gymraeg at ei gilydd. Ein dadl yma yw fod Seisnigrwydd addysgu a gweinyddu’r coleg yn codi’n naturiol o natur y sefydliad. Mewn cyd-destun felly, arwynebol iawn fydd y newidiadau a ddeuant trwy Gynllun Iaith.
  • pca2.jpg

  • 3 (1) Petai’r Coleg yn gwneud ymdrech mwy i uniaethu ag anghenion Ceredigion a Chymru, byddai hynny ynddo’i hun yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg i raddau llawer yn fwy nag a gyflawnid trwy’r Cynllun Iaith. Rhaid derbyn mai dim ond newidiadau gwleidyddol a allai newid natur a swyddogaeth y coleg fel bod y Gymraeg yn dod yn rhan naturiol a hanfodol o’i fodolaeth. Eto i gyd, mae nifer o gamau y gallai’r coleg eu cymryd yn syth er mwyn uniaethu a’r gymuned y’i lleolir ynddi. Ar y funud y mae’r coleg yn ymddwyn yn debyg i landlord ffiwdal yn cyflogi ac yn gorfodi’i ewyllys ar y gymuned leol yng Ngheredigion. Un ffordd yn unig yw’r cyfathrebu h.y. y mae’r coleg yn Seisnigo Ceredigion, ond nid yw Ceredigion yn llwyddo i Gymreigio’r coleg.
  • 3 (2) Ein hargymhelliad yw y dylid ffurfio Cyd-Weithgor o Goleg Aberystwyth ac o Gyngor Ceredigion (gyda chymorth Aelod Cynulliad Ceredigion) i astudio’r ddau faes canlynol a gwneud argymhellion i’w gosod gerbron awdurdodau’r Coleg -:
      a)Astudio’r effaith (yn ieithyddol, yn economaidd ac mewn meysydd fel tai) a gaiff polisiau’r Coleg ar y gymuned leol

      b)Llunio meysydd ymchwil lle gallai adrannau o’r Coleg – trwy eu cyrsiau – wneud cyfraniad cadarnhaol at ddatblygiadau yng Ngheredigion e.e. datblygu economaidd, astudio newidiadau cymdeithasol, effaith penderfyniadau cynllunio, astudiaethau amgylchedd a’r gwyddorau naturiol, hanes a llenyddiaeth etc. Dyma gyfathrebu dwy ffordd – gwerth addysgiadol ffynonellau ymchwil ar drothwy’r coleg a chynnyrch ymchwil a allai arwain at ddealltwriaeth well o broblemau cymunedau lleol a datblygiadau.
      Byddai gweithredu o’r fath yma’n arwain yn naturiol at raddfa lawer uwch o addysgu a gweinyddu trwy’r Gymraeg a denu myfyrwyr Cymraeg..

  • 3 (3) Dylai’r Coleg wneud ymdrech llawer fwy i feithrin cydweithio gyda sefydliadau addysgiadol eraill yn y sir, er engrhaifft ysgolion uwchradd, sefydliadau addysg bellach ac addysg gydol oes. Dylid ceisio integreiddio’n well fyfyrwyr llawn amser a rhai rhan-amser sy’n byw yn y sir. Unwaith eto, fe ellid cyflawni gwelliannau o’r fath yn syth heb ddisgwyl i am unrhyw newid i natur sylfaenol y coleg. Byddai meithrin cysylltiadau lleol a Chymreig fel hyn yn arwain at gynyddu’r cyfathrebu gweinyddol trwy’r Gymraeg ynghyd â chanran yr addysgu Cymraeg a chanran y myfyrwyr Cymraeg a’r rhai sy’n abl i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

  • 4 (1) Hyd yn oed o dderbyn fframwaith y status quo yn llwyr, mae’r cynllun yn wan mewn cymhariaeth a’r hyn y byddai’n bosibl ei gyflawni ac yn wir mewn cymhariaeth a chynlluniau iaith eraill. Yn wir y mae’r Cynllun mor wan fel ei bod yn debygol mai un effaith fyddai sicrhau fod canran llai fyth o fyfyrwyr Cymraeg yn dod i Aberystwyth a llai o ddarlithwyr Cymraeg yn ymgeisio am swyddi yn y coleg. Byddai sefyllfa felly’n gwaethygu ac yn ei gwneud yn llai tebygol y byddai hyd yn oed y targedau a osodir yn cael eu cyrraedd.
  • 4 (2) Lle mae cynnydd mewn darpariaeth Gymraeg wedi gweddnewid sefydliadau addysgiadol ynghyd â sefydliadau eraill yng Nghymru, mae Coleg Aberystwyth bron wedi sefyll yn ei hunfan ers cenhedlaeth. Mae’n cynnal agweddau gwrth-Gymraeg y ganrif ddiwethaf, trwy fod yn agos at 100% o’r cyrsiau (heblaw am y Gymraeg ei hun) ar gael yn Saesneg, gyda dim ond cyfran fach yn unig ar gael yn Gymraeg. Y ddiffyg mwyaf yw natur tameidiog y ddarpariaeth Gymraeg. Nid oes unrhyw beiriant yn gyrru datblygiadau yn y maes yn effeithiol. Mae bodolaeth tim bychan ym Mangor i ymchwilio i addysgu dwyieithog wedi golygu fod y ddarpariaeth yng Ngholeg Bangor wedi cynyddu’n llawer fwy nag yn Aberystwyth (teirgwaith yn fwy o gyrsiau ym Mangor yn 2000 ar gael yn Gymraeg). Felly gwendid mwyaf Cynllun Aberystwyth yw’r methiant i gynnig peirianwaith o’r farth er mwyn gyrru datblygiadau yn eu blaenau. Yn absenoldeb unrhyw waredigaedd o’r fath, anodd yw gweld unrhyw newid mawr o’r sefyllfa warthus bresennol

  • pca1.jpg
  • 4 (3) Ffrwyth cyntaf sefydlu peirianwaith o’r fath fyddai creu targedau mentrus o ran sicrhau ystod eang o addysgu Cymraeg, na fyddent yn obeithion gwag, ond yn rhan o strategaeth gydlynus sy’n seiliedig ar drefniadaeth fanwl. Yn y cynllun hwn y mae amheuaeth a wireddir unrhyw dargedau ac y mae sicrwydd na fyddai gwireddu targedau o’r fath yn gweddnewid y sefyllfa.
  • 4 (4) O ran ei gynigion ar gyfer Gweinyddu Cymraeg y mae’r Cynllun Iaith hwn yn methu yn yr un ffyrdd ag y gwna’r mwyafrif o Gynlluniau Iaith -:

      a)Mae ymdrech i roi gwedd dwyieithog ar beiriant gweinyddol sy’n sylfaenol Saesneg e.e. yr ymdrech i ateb y ffôn i’r cyhoedd yn Gymraeg tra’n cynnal Saesneg fel cyfrwng cyfathrebu mewnol. Caiff hyn ei ategu gan ddibyniaeth y Coleg ar yr adran gyfieithu. Er pwysigrwydd yr adran hon, mae’r dystiolaeth yn awgrymu fod yna duedd ymhlith gwahanol adranau – yn weinyddol ac academaidd – i ddibynnu yn llwyr arni, gan osgoi unrhyw gyfrifoldeb i geisio defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng naturiol ar gyfer cyfathrebu mewnol. Yn sgil y fath ddibyniaeth ni ellir symud at sefyllfa lle caiff y defnydd o’r Gymraeg ei normaleiddio o fewn y sefydliad. Yn absenoldeb unrhyw ymdrech gyd-lynus i symud tuag at weinyddu mewnol trwy’r Gymraeg, bydd y Coleg yn parhau yn sefydliad sylfaenol Saesneg, sydd yn dibynnu ar gyieithu bob hyn a hyn.


      b) Nid oes unrhyw gynllunio gwirioneddol er mwyn sicrhau bod gan y Coleg staff sydd yn gymwys i weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cymalau’r cynllun sydd yn gysylltiedig â staffio yn drychinebus o wan, a’r duedd i’w i nodi y byddai’r Gymraeg yn fanteisiol. Golyga hyn y byddai penodiadau Cymraeg yn dibynu ar hap a damwain yn hytrach nag ar gynllunio pendant. Credwn y dylid llunio proffil gofynion ieithyddol manwl ar gyfer pob swydd yn y Coleg a gwneud gofynion ieithyddol pob swydd yn hysbus i ddeiliaid presennol y swydd ac wrth hysbysebu unrhyw swyddi newydd. Ymhellach, dylai pob proffil ieithyddol gynnwys amserlen a thargedau parthed cyrraedd safon weithredol defnyddiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mewn perthynas â hyn, credwn y dylai’r cyfle i ddysgu neu i loywi’r Gymraeg fod ar gael i aelodau staff yn ystod oriau gwaith, yn y man gwaith, ac yn rhad ac am ddim.

      c) Fod yr ymlyniad tuag at gydraddoldeb rhwng y ddwy iaith yn niwlog iawn. Dylid anelu yn hytrach at nod symlach o ddwyieithrwydd gan nodi eithriadau ar y naill ochr neu’r llall e.e. gweithgareddau arbenigol iawn, heb unrhyw gysylltiad â Chymry Cymraeg ar y naill law ac ar y llaw arall gweithgareddau sydd wedi’u hanelu at Gymry Cymraeg yn unig. Byddai gofyn cyfiawnhau’r eithriad ym mhob achlysur.

  • 4 (5) Tynnwn sylw’r Coleg at ddogfen Cymdeithas yr Iaith; Dwyieithrwydd Gweithredol a gaiff ei gynnwys fel atodiad i’r ymateb hwn. Er bod y ddogfen hon yn canolbwyntio ar y modd y dylai'r Cynulliad Cendlaethol weithredu er mwyn sicrhau ei fod yn gorff gwirioneddol dwyieithog, mae'r egwyddorion sydd yn sail i'r ddogfen yn berthnasol i unrhyw sefydliad a chredwn y dylai swyddogion y Coleg ystyried ei gynnwys.

  • pca4.jpg

  • 5 (1) Ni allwn dderbyn fod yma ymdrech tuag at Gynllun Iaith difrifol. Nid oes peirianwaith digonol i wireddu’r amcanion ac, o’u gwireddu, ni byddent yn gweddnewid y sefyllfa warthus bresennol o ran y ddarpariaeth Gymraeg.
  • 5 (2) Mae’n ddadlenol iawn fod y Cynllun ond yn nodi y modiwlau a’r cyrsiau gradd hynny sydd ar gael yn Gymraeg. O ganlyniad mae’n mynd yn groes i’r hyn sy’n arferol mewn cynllun o’r fath, lle nodir pob cwrs a gynigir gan y sefydliad dan sylw, ynghyd â beth yw bwriadau’r sefydliad ar gyfer y cyrsiau hyn yn y dyfodol. O ystyried hyn, gellir ond casglu bod y coleg wedi osgoi cyhoeddi deunydd o’r fath gan y byddai yn pwysleisio, mewn modd cwbwl ddamniol, mor ymylol yw sefyllfa’r Gymraeg ar hyn o bryd, ynghyd â’r diffyg ewyllys sydd yno i newid y sefyllfa.
  • 5 (3) Mae’r ffaith fod y Cynllun drafft wedi ymddangos mor hwyr (hyd yn oed o gymharu a sefydliadau cyffelyb) yn arwydd o ddiffyg ymrwymiad na pharodrwydd i ddod i’r afael a’r anghyfiawnder.
  • 5 (4) Mae’r ffaith fod y cyfnod ymgynghori wedi’i gyfyngu – ar ôl yr holl amser llunio – i ddiwedd Gorffennaf tan ganol Hydref – yn arwydd fod y Coleg yn ceisio osgoi ymatebion difrifol a beirniadaeth trwy gynnal yr ymgynghori gorfodol yn y cyfnod tawelaf.
  • 5 (5) Yr ymateb mwyaf priodol fyddai dyfarnu nad yw’r Cynllun yn deilwng. Byddai hyn yn danfon arwydd fod yn rhaid wrth gychwyn newydd a difrifol a brys gyda pheirianwaith ac adnoddau digonol. Mae’n bryd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg (am y tro cyntaf) wrthod cynllun iaith.
  • Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
    17/10/02

    Hydref 17, 2002 | Addysg , Dogfennau

    Newyddion
    Ymateb i Gomisiwn Richard: Deddf Gyntaf - Deddf Iaith Newydd
    31 Mawrth, 2004
    Brwydr y Bandiau 2004 - Eisteddfod Casnewydd
    25 Mawrth, 2004
    Cynigion a basiwyd yn Cyf Cyff 2004
    7 Mawrth, 2004
    Mwy o newyddion...

    Digwyddiadau
    Gig Abri mis Ebrill
    29 Ebrill, 2004
    Gig Abri mis Mawrth
    25 Mawrth, 2004
    Rhagor...

    Y Wefan Hon
    Defnyddio'r Wefan

    Movable Type 2.63
    Ffrwd RDF (XML)
     

    nôl i'r brig