tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Trefnu Protest ar y Cyd gyda Cymuned yn y Steddfod

eisteddfod.JPGAm y tro cyntaf mae Cymuned a Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cynnal protest ar y cyd a hynny ar Faes Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau ym Meifod brynhawn dydd Gwener. Bwriad y brotest oedd tynnu sylw at yr argyfwng tai sy'n tanseilio cymunedau ar draws Cymru a phwysleisio rhai camau y gall Llywodraeth y Cynulliad eu cymryd er mwyn ymdrin ’'r broblem.

Fe orymdeithodd y ddau fudiad o babell Y Lolfa i babell Llywodraeth y Cynulliad.

Yno fe fu Simon Thomas, AS Ceredigion, Simon Brooks o Cymuned, Huw Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac Aled Davies, Swyddog Ymgyrch Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith, yn annerch y dyrfa.

Cafodd y brotest ei chynnal er mwyn tynnu sylw at y broblem na all pobol ifanc lleol fforddio prynu tai yn eu cymunedau ac o ganlyniad maen nhw'n gorfod gadael eu br–ydd.

Penderfynodd y ddau fudiad gynnal protest ar y cyd wedi cyhoeddiad gan Edwina Hart, Gweinidog Tai y Cynulliad, ddechrau mis Gorffennaf.

Dywedodd Ms Hart na fyddai unrhyw arian ychwanegol ar gael ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu.

Cynllun oedd hwn a gafodd ei sefydlu gyda'r bwriad o helpu teuluoedd i brynu tai yn eu cymunedau.

Mae'r ddau fudiad yn dadlau fod y Llywodraeth wedi gwrthod cymryd un o'r camau symlaf posib tuag at leddfu'r argyfwng tai yng Nghymru wrth fethu ’ darparu mwy o gyllid ar gyfer y cynllun.

Maen nhw hefyd yn galw am gynnydd sylweddol yn y gyllideb bresennol sy'n cael ei ddarparu ar gyfer y cynllun.

Meddai Huw Lewis, Cadeirydd yr Iaith: "Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwrthod un o'r camau rhwyddaf y gall y Cynulliad ei wneud o fewn ei bwerau ac mae'n dangos diffyg ewyllys ar eu rhan.

"Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu ar nifer o faterion ac mae'r ymgyrch tai yn un ohonyn nhw ac fe fydden ni'n barod i gydweithio ag unrhyw fudiad neu blaid arall sy'n cytuno ’ ni.

Wrth egluro pam y penderfynodd Cymuned gydweithredu ’ Chymdeithas yr Iaith, meddai Gwilym ab Ioan o Cymuned: "Mae'n gwneud synnwyr i gydweithredu gan ein bod ni'n ddau fudiad gyda'r un nod ac mae'n dyheadau ni yr un fath ar y pwnc hwn.

"Does yna ddim gelyniaeth rhyngddon ni ac rydyn ni'n ymgyrchu mewn gwahanol feysydd a phan mae'r meysydd hynny'n cyffwrdd ’'i gilydd rydyn ni'n fwy na pharod i gydweithredu er budd y genedl.

Nid yw Gwilym ab Ioan yn credu fod angen uno'r ddau fudiad.

"Mae'r ffurfafen yn rhy eang ac mae'n anodd i un mudiad flaenoriaethu a chanolbwyntio ar amryw o bynciau unigol," meddai.

Stori llawn wedi'r Digwyddiad BBC Cymru'r Byd
Y Stori (cyn y digwyddiad) oddi ar BBC Wales
Y Stori (cyn y digwyddiad) oddi ar BBC Cymru'r Byd

Mwy yn yr un categori(au): Cymunedau Rhydd | Eisteddfodau | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig