tafod.jpg hafan cymdeithas.com pwysig-materion-cym.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Banc Lleol y Byd - Ond nid i Benygroes

gwreiddiwch.JPGBydd pentrefwyr Penygroes yn dod gyda'i gilydd yr wythnos nesaf (Medi 22) i brotestio yn erbyn gostyngiad yn oriau'r banc yn y pentref.

Cynhelir y brotest ar ddydd Llun, Medi 22, am 10.30, ar y diwrnod y bydd torri ar gwasanaeth HSBC yn y pentref. Bydd y Banc yn cau ei ddrysau wedi'r bore. Mae Banc HSBC yn Llanberis yn haneru ei oriau ar yr un diwrnod, gyda'r ddwy cangen yn rhannu gweithwyr.

"Mae'n ironig iawn bod HSBC yn galw ei hun "banc lleol y byd", gyda'r dirywiad yn ei wasanaeth ym Mhenygroes," meddai Angharad Tomos o Gymdeithas yr Iaith, un o'r mudiadau gyda ei gyfrif gyda HSBC sy'n cymryd rhan yn y brotest. "Mae bron ’ 500 o gwsmeriaid o Benygroes - chwarter y pentref - wedi arwyddo'r ddeiseb, a byddwn yn disgwyl dipyn o dorf i brotestio."

Bydd y brotest yn rhoi'r ddeiseb i mewn, gyda llythyr i Tony Mahoney,
Rheolydd HSBC Cymru, yn gofyn am gyfarfod. Dywedodd yr AC lleol, Alun Ffred Jones, "Mae cadw gwasanaeth o'r math yma yn gwbl hanfodol i ddyfodol cymdeithasol ac economaidd yr adaloedd yma. Yr ydwf wedi ysgrifennu at Reolwr Cymru HSBC yw mynegi fy mhryder am y cwtogi ar y gwasanaeth hwn".

"Yn y chwe mis diwethaf, gwnaeth HSBC elw o £3.7 biliwn a llynedd gwnaethant elw o £6 biliwn," meddai Angharad. "Yn amlwg, mae HSBC yn rhoi elw cyn cymunedau."

Bydd y llythyr yn galw ar HSBC i adolygu ei benderfyniad, ac i roi ymrwymiad i ddyfodol y gwasanaeth ym Mhenygroes. "Mae gwasanaethau i gefn gwlad mewn sefyllfa fregus iawn," meddai Angharad. "Llynedd, cyhoeddodd Cyngor Defnyddwyr Cymru nad oedd gan 88% o gymunedau cefn gwlad fanc neu gymdeithas adeiladu. Mae'n bwysig iawn na fydd Dyffryn Nantlle yn cael ei ychwanegu at y rhestr hon."

Mwy yn yr un categori(au): Gwreiddiwch | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Iceland yn Llusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Iâ
19 Chwefror, 2009
Gig er mwyn Gasa
9 Chwefror, 2009
Llongyfarch cynghorwyr Gwynedd am eu parodrwydd i wrando
5 Chwefror, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Fforwm Agored - Ad-drefnu Ysgolion Cefn Gwlad
21 Chwefror, 2009
Can i Gasa: Steve Eaves, Gwilym Morus, Caernarfon
13 Mawrth, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig