hafan cymdeithas.com  
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Deddf Iaith Newydd
Cymunedau Rhydd
Addysg
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Codi Arian
Y Cyf Cyff
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Nwyddau
Rhygwladol
Y Senedd
Y Tafod

Gwasg
Gwleidyddion

Pages in English
 

Ymgyrch lobio Bwydydd Cyflym

Ymateb McDonalds

Staff Cymraeg:

  • Mae McDonalds yn cyflogi 4,000 o weithwyr yng Nghymru.

  • Mae’r canran o’r staff sy’n siarad Cymraeg, i bob pwrpas, yn newid gyda chanran y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal.

  • Mae McDonalds Caernarfon yn cyflogi 47 o
    weithwyr – mae 40 ohonynt yn Gymry Cymraeg.


Arwyddion Dwyieithog:

  • Mae ganddyn nhw arwyddion dwyieithog mewn nifer o’u hallfeydd.

  • Arwyddion dwyieithog = bwydlenni ac arwyddion yn y maes parcio.

  • Fe enillodd McDonalds Holywell wobr ‘Welsh Language Board Bilingual Design’. Roedd 1,000 arall wedi cystadlu!

  • Eu bwriad yw defnyddio’r dyluniau buddugol ym mhob un o’r allfeydd trwy Gymru!

Cyflenwyr Cymraeg:

  • Mae McDonalds yn buddsoddi dros £16 miliwn y flwyddyn yng Nghymru.

  • Mae tua 200 o ffermydd yng Nghymru yn gwerthu eu gwartheg i McKey (is-gwmni cyflenwi cig McDonalds).

  • Mae eu caceni’n dod o ‘Avana Bakeries’ - cwmni o Gasnewydd.

  • Mae ‘substantial amount of our packaging’ yn dod o ‘F. Bender cyf…’ cwmni o Wrecsam.

  • Hefyd tynant sylw at y ffaith eu bont yn contractio gweithwyr lleol megis glanhawyr ffenestri, trydanwyr, adeiladwyr ayyb…

Gwaith yn y Gymuned:

  • Maen nhw’n hawlio llawer o glod am eu gwaith gyda ‘phêl droed cymunedol’. Maen nhw ar fin llofnodi contract i gyd weithio â Chymdeithas Bêl Droed Cymru.

  • Yn 2002 cododd staff McDonalds De Cymru £85,000 i achosion da.

  • Yn 2002 rhoddwyd grantiau o £20,000 yr un i 18 o fudiadau plant ag anghenion arbennig gan ‘Ronald McDonald Children’s Charities’.

Ymateb ‘Yum!’ (sef KFC, Pizza Hutt, A & W, Long John Silvers a Taco Bell.)

Staff Cymraeg:

  • Adroddant y fod rhan fwyaf o’i staff yng Nghaernarfon yn siarad Cymraeg.

Arwyddion Dwyieithog:

  • Maen nhw’n ymddiheurio.

  • Tynant sylw at y ffaith nad yw cwsmeriaid wedi gofyn am arwyddion dwyieithog.

Cyflenwyr Cymraeg:

  • Dywedant nad ydyn nhw’n defnyddio cyflenwyr o Gymru oherwydd nad oes yma gwmni a fedr gynnal ‘…the large volumes we require’.

  • Ond maen nhw yn chwilio am gyflenwyr addas yng Nghymru… yn ôl y sôn!

Gwaith yn y Gymuned:

  • Nid yn unig eu bod nhw’n cyflogi staff…

  • … maen nhw’n noddi timau pêl droed lleol.

  • Cyfrannu at weithgareddau elusennol lleol.

Ymateb Burger King

Staff Cymraeg:

  • Eu dymuniad (BK Aberystwyth) yw cyflogi Cymry Cymraeg ond does dim Cymry Cymraeg yn ceisio am eu swyddi.

Arwyddion Dwyieithog:

  • Dim polisi cenedlaethol.
  • Peth darpariaeth yn BK’s Caerdydd mae’n debyg - ond dim darpariaeth yn BK’s eraill megis Aberystwyth.

Cyflenwyr Cymraeg:

  • Heb gael ymateb gan BK yn ganolog.

  • BK Aberystwyth yn trosglwyddo’r bai/cyfrifoldeb ar y cwmni’n ganolog.

Gwaith yn y Gymuned:

  • Cefnogi timau chwaraeon lleol.

  • Cefnogi elusenau lleol.

  • Cefnogi grwpiau ieuenctid.

Ymateb Wimpy


  • Dim ymateb o gwbl

Cafodd y ddogfen yma ei baratoi gan Rhys Llwyd - rhys@cymdeithas.com yn arbennig ar gyfer y wefan.

Chwefror 01, 2004 | Dogfennau , Gwreiddiwch

Newyddion
Ymateb i Gomisiwn Richard: Deddf Gyntaf - Deddf Iaith Newydd
31 Mawrth, 2004
Brwydr y Bandiau 2004 - Eisteddfod Casnewydd
25 Mawrth, 2004
Cynigion a basiwyd yn Cyf Cyff 2004
7 Mawrth, 2004
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Gig Abri mis Ebrill
29 Ebrill, 2004
Gig Abri mis Mawrth
25 Mawrth, 2004
Rhagor...

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.63
Ffrwd RDF (XML)
 

nôl i'r brig