hafan cymdeithas.com
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Deddf Iaith Newydd
Cymunedau Rhydd
Addysg
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Codi Arian
Y Cyf Cyff
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Nwyddau
Rhygwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Deddf Iaith: Lobio Cwmniau Preifat!

Cyflwyniad

Dy hawliau di fel Cymro Cymraeg ydy canolbwynt yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd. Dwyt ti ddim yn teimlo bod gen ti’r hawl i gael defnyddio’r Gymraeg yn dy wlad di dy hun?

Dylai’r hawl i gael defnyddio’r Gymraeg fodoli ym mhob rhan o dy fywyd, mae'r diffyg sylfaenol yma yn amlwg iawn yn y sector breifat!

  • Mewn siopiau mawr fel Tesco, McDonalds a Top Shop

  • Cwmniau telegyfathrebu fel Orange a Vodafone
  • Yn ol y llywodraeth nid oes angen Deddf i warchod dy hawliau di fel Cymro Cymraeg, ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi profi dro ar ol tro fod angen dibynnu ar fwy nag ewyllys da. Dyma ddywedodd y cwmni Orange wrth Gymdeithas yr Iaith:

      “Orange does not consider itself a public body as defined under the 1993 language act. Therefore there is no need for it to offer any services in Welsh.”

    Mae gen ti ddwy opsiwn nawr:

      1. Gwneud dim a derbyn y ffaith drist nad oes gan gwmniau fel Orange na’r llywodraeth awydd darparu ar dy gyfer.

    Neu
      2. Ymgyrchu!!!

    Beth yw ymgyrchu?

    Nid eistedd mewn cyfarfodydd diflas neu fod yn sownd mewn cell dywyll yn unig ydy ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd. Yn hytrach, gelli di ddechrau ymgyrchu NAWR.......

  • Beth am e-bostio cwmniau a gofyn pam nad ydynt yn darparu gwasanaethau Cymraeg ar dy gyfer di? Dyma restr o e-bist cwmniau amrywiol y medri di anfon e-bost atynt:
  • Cwmniau Ffonau Symudol
    Orange
    Vodafone
    T-Mobile

    Banciau
    Nationwide
    The Woolwich
    Abbey National
    Barclays
    Halifax

  • Neu beth am anfon llythyr at dy fanc neu dy McDonalds lleol, edrycha ar y wefan YMA i ddarganfod eu cyfeiriad.
  • Paid a phoeni os nad wyt ti’n siwr pa fath o neges i’w hanfon - dyma enghraifft i ti!:

    [enghraifft yn unig, newida di y neges]


      At Sylw: Y Rheolwr

      Fel cwsmer hoffwn wybod beth yw safbwynt/sefyllfa eich cangen/cwmni ynghlyn â pholisi iaith. Fel y gwyddoch mae’n siwr, y Gymraeg ydy iaith gyntaf dros 20% o boblogaeth Cymru. Ar hyn o bryd nid yw eich busnes yn adlewyrchu hyn.

      Rwyf yn ymwybodol mai iaith gyntaf eich cwmni yw’r Saesneg. Gall y Saeson archebu eu bwyd a darllen y bwydlenni yn Saesneg, eu hiaith gyntaf. Pam felly na chaiff y Cymry archebu eu bwyd yn Gymraeg, a darllen yr holl arwyddion/bwydlenni yn Gymraeg?

      Mater arall dwi’n anghyfforddus â hi ydy eich cyfraniad i’r economi leol. Heblaw am gyflogi gweithwyr, ym mha ffyrdd ydych chwi yn hybu a chyfrannu at yr economi leol? Er enghraifft, ydych chi’n gwerthu nwyddau lleol, ydych chi’n prynu cig a llaeth gan ffermwyr lleol ar-gyfer eich byrgyrs a’ch ysgytlaeth?

      Byddwn yn gwerthfawrogi’n fawr ymateb i fy mhryderon yn ogystal â chlywed beth yw eich cynlluniau i ymdrin â’r broblem ieithyddol a danlinellais yn y llythyr hwn.

      Yr eiddoch yn gywir

      ??????????????

      * * * *

      To the attention of the manager

      As a customer I would like to know your Branch’s stance/policy towords the Welsh language? As you probably know, 20% of the population of Wales speak Welsh as a first language. As I see it at the moment your busnes does not reflect this at all.

      I am aware that your company’s first language is English. The English can order and read signs in English, their first language. Why, therefore, can’t the Welsh order and read your signs in Welsh?

      Another matter I feel uncomfortable about is your business’ contribution to the local economy. Except for employing local people, in what way do you contribute to the local economy? For example, do you buy local products? Do you buy meat and milk from local farmers for your burgers and milk shakes?

      I would be very grateful to receive a response from you, as well as hearing what measures you are going to take in the near future to deal with the language problem I underlined in the letter.

      Yours sincerely,

      ?????????

    Os y cei di unrhyw ymateb ddiddorol cofia anfon copi i swyddfa Cymdeithas yr Iaith.

    Y Cam Nesaf

    Wrth gwrs, rhaid sicrhau fod dy neges di yn cael ei chlywed a’i hystyried yn ddwys. Mae hanes yn profi bod angen gwneud mwy na anfon llythyr i ennill brwydrau.
    branwen.jpg

    Mae Cymdeithas yr Iaith yn trefnu protestiadau ledled Cymru i dynnu sylw tuag at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Cofia edrych ar wefan y Gymdeithas yn gyson i gael gwybod am unrhyw brotestiadau sydd ar y gweill.

    Casgliad

    caerdydd.jpg


    Oes oes unrhyw gwestiynau gyda ti ynglyn a’r ymgyrch a be fedri di ei wneud, cofia anfon e-bost unrhywbryd at: rhys@cymdeithas.com

    Yn y cyfamser dos ati i lythyru, e-bostio a phrotestio! Does dim hawliau gen ti eto ond mae hawl gen ti godi dy lais dros dy iaith!

    Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Erthyglau

    Newyddion
    Ymateb i Gomisiwn Richard: Deddf Gyntaf - Deddf Iaith Newydd
    31 Mawrth, 2004
    Brwydr y Bandiau 2004 - Eisteddfod Casnewydd
    25 Mawrth, 2004
    Croeso Gofalus i Ddatganiad Carwyn Jones ar dai fforddadwy
    15 Mawrth, 2004
    Mwy o newyddion...

    Digwyddiadau
    Gig Abri mis Ebrill
    29 Ebrill, 2004
    Gig Abri mis Mawrth
    25 Mawrth, 2004
    Rhagor...

    Y Wefan Hon
    Defnyddio'r Wefan

    Movable Type 2.661
    Ffrwd RDF (XML)
     

    nôl i'r brig