Cynigion a basiwyd yn Cyf Cyff 2004
Yr oedd y Cyfarfod Cyffredinol eleni yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn a cafodd nifer o gynnigion eu pasio a fydd yn galluogi'r Gymdeithas i ymgyrchu yn effeithiol yn ystod y flwyddyn nesaf.
(yn cynnwys gwelliannau a chynnig brys)
1. Addysg Gymraeg
Nodaír Cyfarfod Cyffredinol:
- benderfyniad diweddar Jane Davidson i wrthod sefydlu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghaerffili
- fod diffygion difrifol ar hyn o bryd iír drefn o ddatblygu addysg Gymraeg ar bob lefel
- bod y cynnydd a fu yn y gorffennol, wedi bod yn sgil ymgyrchu penderfynol yn hytrach na chynllunio bwriadol gan y Llywodraeth
Cred y Cyfarfod Cyffredinol:
- y dylai fod gan bawb yng Nghymru yr hawl i dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
- bod sicrhau darpariaeth gyflawn o addysg Gymraeg yn gam hollbwysig tuag at sicrhau dyfodol iír iaith
- bod penderfyniadau diweddar y Gweinidog Addysg yn fygythiad difrifol i dwf y Gymraeg
Penderfynaír Cyfarfod Cyffredinol:
- y dylai Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu er mwyn pwyso ar Lywodraeth y Cynulliad i lunio Strategaeth Genedlaethol ar gyfer datblygu addysg Gymraeg. Dylai Strategaeth oír fath roi sylw i bob lefel oír sbectrwm addysg ñ meithryn, cynradd, uwchradd, prifysgol, addysg bellach ac hefyd addysg gydol oes.
- y dylai senedd Cymdeithas yr Iaith drafod ar fyrder sut i roi ymgyrch oír fath ar waith
- fod y galwadau hyn yn cael eu cyflwyno law yn llaw gyda galwadau eraill Cymdeithas yr Iaith ym maes addysg, gan bwysleisio felly fod newid cynnwys ein haddysg yr un mor bwysig a iaith y cyfrwng.
Cynigydd: Cell Gogledd Ceredigion
2. Addysg Ol 16 ñ Bygythiadau i chweched dosbarth
Nodaír Cyfarfod Cyffredinol:
- y bygythiadau cynyddol i ddyfodol y chweched dosbarth yn nifer o ysgolion ledled Cymru yn sgil polisiau Llywodraeth y Cynulliad ac Elwa.
- y cam a wnaed a chymuned y Bala pan ddilewyd y chweched dosbarth yn Ysgol y Berwyn.
Cred y Cyfarfod Cyffredinol:
- bod y bygythiad o du Llywodraeth y Cynulliad a chan Elwa,yn un difrifol, nid yn unig i ddyfodol addysg Gymraeg Ùl 16 oed, ond hefyd i ddyfodol rhai o gymunedau Cymreiciaf Cymru.
Penderfynaír Cyfarfod Cyffredinol:
- i gyfarwyddo Grwp Ymgyrchu Addysg Cymdeithas yr Iaith i weithredu ar ei hunion yn erbyn y bygythiadau i ddyfodol chweched dosbarth ysgolion uwchradd Cymru.
Cynigydd - Leusa Fflur
Eilydd ñ Gwyn Sion Ifan
3. Cwricwlwm i Gymru ñ Gwrando ar lais myfyrwyr ysgol
Nodaír Cyfarfod Cyffredinol:
- fod ACCAC yn cynnal Adolygiad Cwricwlwm.
Cred y Cyfarfod Cyffredinol:
- y dylai adolygiad ACCAC arwain at lunio Cwricwlwm Cyflawn a fydd yn grymuso Cymry ifanc gydaír wybodaeth aír sgiliau i gyfrannuín llawn at y broses o ddatblygu ein cymunedau lleol.
Galwaír Cyfarfod Cyffredinol:
- ar Lywodraeth y Cynulliad i gyllido ymgynghoriad cyfamseol a fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ysgol ñ trwy fforymau sirol ñ i fynegi eu barn hwythau ynglyn a dyfodol y cwricwlwm.
- ymhellach ar Lywodraeth y Cynulliad i gyfarwyddo Cynghorau Sir Cymru i ymgynghoriín ffurfiol gyda Fforymau o Fyfyrwyr Ysgol ynglyn ’ chynnwys Strategaethau Cymunedol a Chynlluniau Datblygu Unedol.
Cynigydd ñ Grwp Addysg
4. Strategaeth Gorfforaethol i Ddatblygu Ysgolion Pentrefol
Nodaír Cyfarfod Cyffredinol:
- ymosodiadau Cynghorau Sir Caerfyrddin a Phenfro ñ mewn cydweithrediad ’ Llywodraeth y Cynulliad ñ ar ysgolion pentrefol Cymraeg.
Cred y Cyfarfod Cyffredinol:
- fod yr ymosodiadau hyn yn gwbwl anghyfiawn o safbwynt addysgol ac yn niweidiol iawn i ddatblygiad y plant ac i barhad cymunedau pentreol Cymraeg.
- mai cyfleustra gweinyddol di-weledigaeth sydd wrth wraidd yr ymosodiadau hyn. Yn wir, yn dilyn y penderfyniad i gau ysgol lwyddiannus a gorlawn yn Hermon, credwn fod bygythiad i bob ysgol bentrefol yng Nghymru.
Galwaír Cyfarfod Cyffredinol:
- ar Lywodraeth y Cynulliad ac ar Gynghorau Sir i greu strategaeth gorfforaethol a gyfer datblygu yr ysgolion yn ganolfannau ar gyfer adferiad cymunedol. Dylent gynnig ystod eang o wasanaethau, megis addysg gymunedol, cymhathu mewnfudwyr, dysgu sgliau newydd, darparu gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal ’ chynnig addysg statudol i blant o oed cynradd. Dylent hefyd rannu adnoddau gydag ysgolion cyfagos.
Cyfarwyddaír Cyfarfod Cyffredinol:
- Grwp Ymgyrchu Addysg Cymdeithas yr Iaith i gasglu cefnogaeth eang i strategaeth oír fath ac i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y Cynulliad.
Cynigydd ñ Grwp Ymgyrchu Addysg
5. Coleg Ffederal Cymraeg
Nodaír Cyfarfod Cyffredinol:
- Maiír prif reswm nad ywír addysg ar gael yn Gymraeg yw nad ywír addysg wedi ei anelu at anghenion Cymru.
- y protestiadau a drefnwyd eleni gan UMCA yn tynnu sylw at ddiffyg darpariaeth Gymraeg Prifysgol Cymru ac yn galw am sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg.
- y brotest genedlaethol dros addysg Gymraeg a gynhelir gan UMCA yng Nghaerdydd ar y 10fed o Fawrth 2004.
Cred y Cyfarfod Cyffredinol:
- y dylai fod gan bob myfyriwr yr hawl i dderbyn ei addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru
- bod hwn yn gam hollbwysig er mwyn sicrhau dyfodol iír Gymraeg.
Cred Cyfarfod Cyffredinol:
- y dylai Cymdeithas yr Iaith ddatgan ei gefnogaeth i alwad y myfyrwyr am Goleg Ffederal Cymraeg.
- y dylid sicrhau cefnogaeth iír brotest genedlaethol a gynhelir yng Nghaerdydd ar ddydd Mercher y 10fed o Fawrth 2004.
Galwaír Cyfarfod Cyffredinol
- ar Sefydliadau Addysg Uwch i feithryn cysylltiadau gydag Awdurdodau Lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn eu hardaloedd. Dylai hyn olygu bod astudio ac ymchwilio i anghenion cymunedau lleol yn dod yn ran sylfaenol i lawer oír addysg.
Cynigydd ñ Catrin Dafydd
Eilydd ñ Rhys Llwyd
Gwelliant - Grwp Ymgyrchu Addysg
6. Gwreiddiwch yn y Gymuned
Nodaír Cyfarfod Cyffredinol:
- bod y duedd o ganoli grym economaidd yn fygythiad cynyddol iín cymunedau aír iaith Gymraeg.
- bod nifer o enghreifftiau o hyn iíw gweld yng Nghymru heddiw, o gwmniau yn cau pencadlysoedd a dileu swyddi, i gyrff cyhoeddus a phreifat yn ecsploetio amaethwyr
- bod Cymdeithas yr Iaith eisioes wedi trafod rhai agweddau oír broblem hon, er engrhaifft ym Maniffesto 2003, yn y papur trafod Gwreiddiwch yn y Gymuned ac mewn cyfarfodydd cyhoeddus
Cred y Cyfarfod Cyffredinol:
- y dylai Cymdeithas yr Iaith, yn ystod 2004, ymgyrchu er mwyn tynnu sylw at fygythiadau economaidd i gymunedau Cymru
- y dylid gwneud hyn, gan edrych am gyfleoedd i gyngrheirio gyda chyrff a mudiadau eraill, megis rhai amgylcheddol ac amaethyddol
Pendefynaír Cyfarfod Cyffredinol:
- y dylid sefydlu grwp ymgyrchu newydd oír enw ëGwreiddiwch yn y Gymunedí er mwyn canolbwyntio ar y maes pwysig yma
- y dylid ethol cynullydd iír Grwp a fydd yn aelod llawn o senedd Cymdeithas yr Iaith
- mai prif waith y grwp yn ystod y flwyddyn nesaf fydd adeiladu cysylltiadau gyda grwpiau eraill a chrisialu cyfres o alwadau polisi penodol
Cynigydd ñ Huw Lewis
Eilydd ñ Aled Davies
7. Senedd i Gymru
Nodaír Cyfarfod Cyffredinol:
- y byddai deddfwriaeth gadarn i warchod yr iaith Gymraeg yn fwy tebygol o gael ei basio pe bai gan Gymru senedd a phwerau cynradd.
- bod angen i Gymdeithas yr Iaith fod yn flaengar yn ei ymateb i argymhellion Comisiwn Richard.
- nad oes digon o ymgyrchu effeithiol ar hyn o bryd i sicrhau Senedd i Gymru.
- y bydd peryg i Gymdeithas yr Iaith gael ei ynysu o brif drafodaethau gwleidyddiaeth Cymru os nad ywín datgan barn glir ar y mater hwn.
- bod y mater yn berthnasol i bob un o ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith
Cred y Cyfarfod Cyffredinol:
- bod yr angen am Senedd i Gymru yn fater hollbwysig i ddyfodl yr iaith Gymraeg.
Penderfynaír Cyfarfod Cyffredinol:
- y dylai Senedd Cymdeithas yr Iaith drafod y mater hwn yn ei gyfarfod nesaf, er mwyn paratoiír ffordd ar gyfer cyhoeddi argymhellion Comisiwn Richard.
- y dylaiír Senedd benderfynu ar ddull priodol o ymateb i argymhellion Comisiwn Richard, gan ystyried amcanion prif ymgyrchoedd y Gymdeithas.
Cynigydd ñ Rhodri Davies
Eilydd ñ Rhys Llwyd
Gwelliant - Huw Lewis
Eilydd - Gwyn Sion Ifan
8. Cymunedau Rhydd
Nodaír Cyfarfod Cyffredinol:
- bod dros 130 o Gynghorau Cymuned wedi datgan cefnogaeth i alwadau Cymdeithas yr Iaith ym maes tai a chynllunio
- bod y galwadau hyn yn cynnwys yr angen i gynydduír gyllideb ar gyfer y cynllun cymorth Prynu ac hefyd yr angen am arian ychwanegol ar gyfer sefydluír Hawl i Rentu
- nad oedd Cyllideb diwethaf Llywodraeth y cynulliad yn cynnwys arian ychwanegol ar gyfer polisiau oír fath
Cred y Cyfarfod Cyffredinol:
- bod angen cynnydd sylweddol yng nghyllideb tai presennol Llywodraeth y Cynulliad er mwyn cychwyn ar y gwaith o fynd iír afael aír bygythiadau sydd yn wynebu ein cymunedau
Penderfynaír Cyfarfod Cyffredinol:
- maiír galwadau cyllido hyn ddylai fod yn brif ffocws iír grwp ymgyrchu Cymunedau Rhydd dros y flwyddyn nesaf ac y dylid sicrhau eu bod yn cael eu dwyn i sylw Llywodraeth y Cynuliad
- y dylid disgwyl cynnydd sylweddol yng nghyllideb tai nesaf y Llywodraeth, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd 2004
- y dylaiír pwyso hyn gynnwys ymgyrchu gweithredol, er mwyn hoelio sylw Llywodraeth y Cynulliad ar bwysigrwydd y gyllideb
Cynigydd ñ Grwp Ymgyrchu Cymunedau Rhydd
9. Deddf Iaith Newydd
Nodaír Cyfarfod Cyffredinol:
- bod deng mlynedd bellach ers pasio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymaeg fel corff statudol
- bod cyrff preifat ac hefyd nifer o gyrff cyhoeddus yn parhau i fethu yn llwyr yn eu cyfrifoldeb i ddarparu gwasanaethau Cymraeg i bobl Cymru
Cred y Cyfarfod Cyfredinol:
- bod grymoedd y Ddeddf Iaith bresennol yn gwbwl anigonol aíu bod wedi methu sicrhau hawliau sylfaenol i siaradwyr Cymraeg ym maes addysg, gweinyddiaeth gyhoeddus naír sector breifat
- yn benodol, maeír ddadl y gellir dibynnu ar gwmniau preifat i ddarparu gwasanaethau Cymraeg trwy ddibynnu ar eu hewyllys da, yn gwbwl anghywir
- bod sicrhau Deddf Iaith Newydd yn gam hanfodol yn y gwaith o adeiladu Cymru wirioneddol ddwyieithog
Penderfynaír Cyfarfod Cyffredinol:
- y dylaiír Grwp Ymgyrchu Deddf Iaith drefnu ymgyrch weithredol, gydaír bwriad o dynnu sylw at fethiannau Deddf Iaith 1993
- y dylid canolbwyntio ar gwmniau sydd, yn y gorffennol (yn Ùl y Bwrdd Iaith) wedi ymrwymo i gynnig gwasanaeth Cymraeg, ond sydd eto i weithredu ar eu haddewidion
- y dylid hefyd rhoi sylw i gyrff cyhoeddus gan bwysleisio yr angen am weinyddu mewnol Cymraeg neu ddwyieithog
- ymhellach, y dylid gwneud ymdrech bwrpasol dros y flwyddyn nesaf i gasglu cefnogaeth iír alwad hon ymhlith cyrff perthnasol
Cynigydd: Grwp Ymgyrch Deddf Iaith
11. Cynnig Rhanbarthau
Nodaír Cyfarfod Cyffredinol:
- nad yw system ranbarthauír Gymdeithas wedi gweithreduín gyson effeithiol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i rai celloedd lleol, ysgolion a cholegau weithredu'n effeithiol gan nad oes cyswllt penodol rhwng y Gell a'r Senedd.
Penderfynaír Cyfarfod Cyffredinol:
- y dylid newid y system bresennol a sefydluír rhanbarthau canlynol:
ï Gwynedd-MÙn
ï Clwyd
ï Ceredigion
ï Caerfyrddin-Penfro
ï Morgannwg-Gwent
ï Powys
Cyfarwyddaír Cyfarfod Cyffredinol:
- y rhanbarthau i gwrdd yn fisol. Dylid cynnal cyfarfod cyntaf i bob rhanbarth o dan y drefn newydd hon cyn diwedd mis Ebrill 2004 (amserau a lleoliadau i gael eu pennu gan y cadeiryddion rhanbarth presennol lle bo rhai yn eu lle, a chan y Senedd lle nad oes).
- y dylai pob rhanbarth ethol Cadeirydd a swyddogion eraill a threfnu amserau a lleoliadau gweddill cyfarfodydd y flwyddyn hyd at Fawrth 2005 yn y cyfarfod cychwynol hwn. Dylid dilyn yr un drefn yn flynyddol wedi hynny.
- y dylai Cadeiryddion y Rhanbarthau fynychu pob Cyfarfod Senedd misol, ac os nad yw hyn yn bosibl, dylaiír Rhanbarth benodi dirprwy.
- y rhanbarthau i roi blaenoriaeth yn ystod y flwyddyn nesaf i hybu creu celloedd newydd yn ogystal ’ chydweithio'n agos gyda'r celloedd sy'n bodoli'n barod. Yn ychwanegol at y gwaith yma bydd angen parhau i bwyso ar Gynghorau Sir a chario ymlaen gydag unrhyw ymgyrchoedd lleol eraill.
- y senedd i lunio strategaeth ar gyfer ail-gychwyn neu gynnal gweithgaredd y Rhanbarth os oes trafferth penodi swyddogion mewn rhai ardaloedd.
Cynnig - Hedd Gwynfor
Eilio - Aled Davies
12. Siartrau Sirol
Nodaír Cyfarfod Cyffredinol:
- ganlyniadau manwl Cyfrifiad 2001 a oedd yn dangos diriwiad pellach ein cymunedau Cymraeg.
Cred y Cyfarfod Cyffredinol:
- bod angen gweithredu pwrpasol a brys gan Awdurdodau Lleol ledled Cymru, er mwyn mynd iír afael ’ír bygythiadau sydd yn wynebu ein cymunedau
- y dylai gweithredu oír fath roi sylw i anghenion ein cymunedau mewn amrediad eang o feysydd, megis tai, cynllunio, gwaith, trafnidiaeth ac addysg
Penderfynaír Cyfarfod Cyffredinol:
- y dylai Cymdeithas yr Iaith alw ar Awdurdodau Lleol ledled Cymru i lunio Strategaethau Corfforaethol manwl a fydd yn tynnu ynghyd y gwahanol gamau y bwriadant eu cymeryd er lles ein cymunedau mewn gwahanol feysydd
- y dylai rhanbarthau cymdeithas yr Iaith lunio Siarterau Sirol a fydd yn amlinelliad bras o gynnwys Strategaethau oír fath
- y dylaiír rhanbarthau drafod sut y gellid ymgyrchu er mwyn dwyn siarter oír fath i sylwír awdurdodau
Cynigydd ñ Senedd Cymdeithas yr Iaith
CYNNIG BRYS
Nodaír Cyfarfod Cyffredinol:
- fod y newidiadau arfaethiedig i reolau buddsoddiadau fel rhan o gynllun pensiwn yn fygythiad difrifol i ddyfodol Cymunedau Cymru .
- y bydd y newidiadau hynny yn fygythiad i hyfwyedd cymunedau Lloegr yn ogystal a Chymru
- bod angen ymateb iír newidiadau hyn mewn modd effeithiol sydd o fewn cyrraedd iín hadnoddau presennol.
Cred y Cyfarfod Cyffredinol:
- bod hwn yn amser addas i chwilio am gysylltiadau ’ mudiadau a grwpiau syín brwydro dros ddyfodol cymunedau yng ngwledydd Prydain.
- y byddai llwyddo i greu cysylltiadau oír fath yn grymuso ein gwrthwynebiad iír newidiadau dan sylw.
- y byddaiír gwaith o geisio creu cysylltiadau oír fath o fewn cyrraedd ein hadnoddau presennol
Penderfynaír Cyfarfod Cyffredinol:
- fel rhan oín hymateb iír newidiadau arfaethiedig i reolau buddsoddi fel rhan oír cynllun pensiwn y dylid ymdrechu i greu cysylltiadau ’ mudiadau a grwpiau syín brwydro dros ddyfodol cymunedau yng ngwledydd Prydain.
Cynigydd ñ Dafydd Tudur
Mwy yn yr un categori(au): Cyf Cyff (gynt)
.
|