Catrin Dafydd

Swyddog Cyfathrebu a Lobio Deddf Iaith
Enw: Catrin Dafydd
Gwybodaeth: Mae Catrin Dafydd yn llenores llawrydd o Waelod-y-Garth ger Pontypridd ond bellach yn byw yn Sir Gâr. Bu'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth a hi oedd Llywydd UMCA 2003-04. Mae hi wedi cyhoeddi dwy nofel, Pili Pala (2006) yn Gymraeg a "Random Deaths and Custard" (2007) yn Saesneg Yn ogystal a llenydda mae hi'n ddiwyd fel digrifwr gyda'i chymeriad dychmygol o'r Wladfa, Evita Morgan, yn gwneud ymddangosiadau aml ar S4C. Mae hi'n teithio Cymru fel storiwraig ac yn cynnal gweithdai llenyddol mewn ysgolion. Enillodd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd 2005.
Ebost: catrin[at]cymdeithas.org
Mwy yn yr un categori(au):
Aelodau
.
|