tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Croeso Gofalus i Ddatganiad Carwyn Jones ar dai fforddadwy

deddf_eiddo.gifMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu rhai oír pwyntau hynny a gynhwysir yn y datganiad ar dai fforddadwy a fydd yn cael ei gyflwyno ar lawr y Cynulliad, brynhawn dydd Mawrth, gan Carwyn Jones, y Gwinidog Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad.

Y datganiad hwn yw ymateb Llywodraeth Cymru iír argymhellion a wnaed yn dilyn arolwg y Pwyllgor Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad i dai fforddadwy.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn falch o weld fod datganiad y gweinidog yn cynnwys rhai oír galwadau penodol a gyflwynwyd gan y mudiad wrth gyflwyno tystiolaeth iír arolwg cyn y Nadolig. Eto i gyd, maeír Gymdeithas yn pwysleisio, mai dim ond cam bach tuag at ddatrys yr argyfwng tai yw hyn.

Wrth gyflwyno tystiolaeth iír arolwg, pwysleisiodd Cymdeithas yr Iaith:

  • y dylai Llywodraeth y Cynulliad sicrhau bod polisiau Awdurdodau Lleol wedi cael eu seilio ar ymchwil manwl a chysol iír angen lleol am dai.

  • y dylid sicrhau nad ywír drefn gynllunio yn caniatau datblygiadau a fyddai yn niweidiol iír iaith Gymraeg. Dylai Llywodraeth y Cynulliad wneud hynny trwy ddiwygio Nodyn Cyngor Technegol 20, er mwyn dangos i Awdurdodau Lleol sut i asesu impact ieithyddol gwhanol ddatblygiadau. Maeír ddau bwyt uchod ymhlith yr argymhellion a gaiff eu derbyn yn adroddiad y gweinidog.
  • Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

    ìWedi blynyddoedd o ymgyrchu ym maes tai a chynllunio, mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawuír pwyslais a roddir yn adroddiad y Gweinidog ar adnabod anghenion lleol."

    ìWrth roi tystiolaeth iír arolwg fe gyflwynodd Cymdeithas yr Iaith gyfres o alwadau penodol ac maeín dda gweld bod rhai ohonynt wedi cael eu cynnwys yma. Yn awr rhaid iír Llywodraeth ddangos arweiniad, gan sicrhau fod yr argymhellion hyn yn cael eu gweithredu ar lawr gwlad. Yn hyn o beth, bydd angen rhoi sylw manwl i bolisiau tai a chynllunio arfaethiedig nifer o Awdurdodau Lleol, yn enwedig Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, lle maeín fwriad i roi caniatad ar gyfer adeiladu 6,500 a 12,000 o dai di-angen.î

    ìYmhellach, rhaid pwysleisio mai dim ond cam bach iawn ymlaen yw hyn. Yn y pendraw, mae gwraidd yr argyfwng tai yn gorwedd yng ngweithrediad y farchnad dai breifat. O ganlyniad, maeín rhaid pwysleisio yr angen parhaol i ymyrryd yn y farchnad honno, er enghraifft trwy gyfrwng Deddf Eiddo.î

    Mwy yn yr un categori(au): Cymunedau Rhydd | Newyddion
    .

    Newyddion
    Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
    2 Medi, 2010
    Lluniau Gwyl Parc 2010
    1 Medi, 2010
    Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
    25 Awst, 2010
    Mwy o newyddion...

    Digwyddiadau
    Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
    3 Medi, 2010
    Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
    14 Medi, 2010
    Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
    25 Medi, 2010
    Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
    28 Medi, 2010
    Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
    9 Hydref, 2010
    Rhagor...

    nôl i'r brig