Gwybodaeth: Dwi'n un ar hugain ac ma' gennai radd o Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Cymru Aberystwyth. Bellach fi yw deiliad ysgoloriaeth R. Tudur Jones yn Adran Ddiwinyddiaeth, Prifysgol Cymru Bangor, lle dwi'n ymchwilio i fywyd a gwaith R. Tudur Jones ac yn arbennig y cyswllt rhwng Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb yng Nghymru. Bues i'n golofnydd i gylchgrawn Barn rhwng 2002-2007. Dwi wedi treulio cyfnodau yn ogystal yn gweithio i Dyddiol Cyf ar brosiect Y BYD, y papur arfaethedig dyddiol Cymraeg. Yn fy amser rhydd dwi'n cyfansoddi gyda fy mand Kenavo ac yn gwneud ychydig o waith dylunio graffeg llawrydd.
Gair am yr ymgyrch...
Yr ymgyrch Coleg Aml-Safle yw problem fawr olaf yr ymgyrch dros Addysg Gymraeg. Dwi'n meddwl fod yr ymgyrch cymaint ar ei hol hi o'i gymharu ag addysg cynradd ac uwchradd oherwydd nad oes dilyniant wedi bod i'r ymgyrch. Dwi wedi bod yn flaenllaw yn yr ymgyrch naill ai gyda'r Gymdeithas neu UMCA ers pedair mlynedd ac wedi magu llawer o gysylltiadau pwysig gyda gwahanol bartïon yr ymgyrch, wedi dod i ddeall strwythurau cymhleth y sector ac hefyd wedi gweithio ar sawl dogfen drafod a pholisi.
Rydw i'n gohebu gyda Ioan Matthews o Brifysgol Cymru, Phil Gummet Prif Weithredwr HEFCW (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru) ac newydd agor dialog gyda Amanda Wilkinson Prif Weithredwr HEW (Addysg Uwch Cymru). Pan yn fyfyriwr fi oedd awdur 'Y Glwyd Olaf' dogfen drafod fanwl UMCA ar Goleg Ffederal Cymraeg; ac yng Ngwanwyn 2006 treuliais sawl noson hwyr yn llunio dogfen dros 5,000 o eiriau am yr angen i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg i Arad, y cwmni oedd yn gyfrifol am ystyried yr opsiynau i ddyfodol Addysg Gymraeg yn y Sector Uwch.
Ar ochr llai gyfansoddiadol a mwy ymgyrchol yr ymgyrch yn unol a phenderfyniad Senedd y Gymdeithas bu'm yn gefn i brotestiadau UMCA ac UMCB yn enwedig trwy dreulio rhai wythnosau yn ffilmio a chynhyrchu rhaglen ddogfen fer, ar y cyd gyda UMCA, am yr angen am Goleg Ffederal Cymraeg.
Credaf fod gennyf dair rhinwedd i gynnig i'r swydd:
1. Cysondeb – wedi bod yn rhan o'r ymgyrch ers 4 mlynedd ac mynd i fod yn fyfyriwr am dair blynedd ac felly yn medru cynnig cysondeb am y flwyddyn nesaf i'r ymgyrch onid yn hwyach. Nid ymgyrch i ddod ato yn oer yw'r ymgyrch gymhleth hon.?
2. Yn ddiwyd gyda'r gwaith di-sôn-amdano megis llunio dogfennau a phapurau tystiolaeth i'r cyrff perthnasol.
3. Yn gefn, drwy weithred yn ogystal a gair, i ymgyrchoedd undeb y myfyrwyr.