Ymateb i Gomisiwn Richard: Deddf Gyntaf - Deddf Iaith Newydd
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu cyhoeddi Adroddiad Comisiwn Richard ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, aír argymhelliad y dylai fod gan y Cynulliad hawliau deddfu.
Yn sgil yr argymhelliad hwn, dylai Llywodraeth y cynulliad fynu'r hawl i ddeddfu ar ddyfodol yr iaith Gymraeg. Dyma fater sydd yn gwbwl unigryw i Gymru - ni fyddai neb mewn difri'n dadlau fod San Steffan yn gwybod yn well na chynrychiolwyr etholedig Cymru. Felly mae'n gwbwl hurt nad yw'r grym i ddeddfu yn gorwedd yn nwylo'r Cynulliad Cenedlaethol.
O gael y grymoedd hyn dylai Llywodraeth y Cynulliad fynd ati yn syth i basio Deddf Iaith Newydd a fydai yn rhoi statws swyddogol llawn i'r Gymraeg ac a fyddai yn ymestyn i'r sector breifat.
Gan fod gan Gymru hefyd ei threfn addysg unigryw, cred Cymdeithas yr Iaith y dylai'r Cynulliad dderbyn hawliau deddfu ar unwaith yn y maes hwn hefyd.
Ond, yn y pen draw, ni fydd modd i'n cymunedau oroesi oni fo gan ein Cynulliad yr hawl i ddeddfu ym mhob maes.
Dywedodd Huw Lewis Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'n bwysig fod Llywodraeth y Cynulliad yn manteisio ar argymhellion Comisiwn Richard ac yn gweithredu ar unwaith dros sicrhau dyfodol i'r Gymraeg. Mae'n hurt mai dim ond yn San Steffan y gellir deddfu ar faterion yn ymwneud â'r Gymraeg. Mae'r Gymraeg wedi'r cwbl yn fater cwbl unigryw i Gymru ac felly pobl Cymru ddylai fod ’r hawl i ddeddfu yn y maes."
Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith
| Newyddion
.
|