|
|
|
Cymunedau Rhydd: Datganiad i'r Wasg
TAI FFORDDADWY:
DYLAI'R LLYWODRAETH WEITHREDU ERBYN Y GYLLIDEB
Yn ôl __________ Aelod Cynulliad __________ dylai Llywodraeth Cymru weithredu ar frys er mwyn mynd i'r afael ’'r argyfwng tai sydd yn tanseilio cymunedau ar hyd a lled y wlad. Cred __________ y gellid cychwyn ar y gwaith hwn trwy gymryd dau gam penodol rhwng nawr a chyllideb nesaf y Cynulliad, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Tachwedd, sef sicrhau cynnydd sylweddol yn yr arian a ddarperir ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu ac hefyd darparu digon o arian ar gyfer sefydlu'r 'Hawl i Rentu'. Trwy wneud hyn roedd __________ yn datgan cefnogaeth i ymgyrch dai Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Dros y misoedd diwethaf mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod wrthi yn casglu cefnogaeth eang i'w galwadau ym maes tai. Ymhlith y cyrff hynny sydd wedi datgan cefnogaeth, mae dros 130 o Gynghorau Cymuned o bob rhan o Gymru ac hefyd nifer o fudioadau cenedlaethol megis Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Merched y Wawr, Yr Eglwys Bresbyteraidd a'r Eglwys Fethodistaidd. Mae'r mudiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol ym maes tai erbyn cyllideb nesaf y Cynulliad.
Meddai __________:
"Er mwyn sicrhau dyfodol i'r iaith Gymraeg, mae galw am weithredu cadarnhaol mewn nifer o wahanol feysydd ñ addysg, datblygu economaidd ac hefyd ym maes tai.
"Yn wir o ystyried y cynnydd syfrdanol a welwyd mewn prisiau taidros y misoedd diwethaf a'r effaith mae hyn yn ei gael ar allu pobl ifanc i gystadlu yn y farchnad mae'n hollbwysig fod y Llywodraeth yn ymateb ar frys.
ìMae yna rai camau penodol y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd rhwng nawr a chyllideb nesaf y Cynulliad . Dylid sicrhau cynnydd sylweddol yn yr arian a ddarperir ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu. Yn ogystal dylid darparu digon o arian ar gyfer sefydlu'r 'Hawl i Rentu', Byddai gweithredu yn y meysydd hyn yn gam cadarnhaol tuag at gyllido dyfodol i'n cymunedau."
Nôl i'r Pecyn Lobio
Mwy yn yr un categori(au): .
|
Seminar Gwion Lewis - Y Mesur Iaith Gymraeg Newydd
8 Chwefror, 2010
|
Protest - Y Gymraeg Mewn Peryg: gadewch iddi fyw
10 Chwefror, 2010
|
Cyfarfod Rhanbarth Clwyd, yr Hand, Stryd Henllan
17 , 2010
|
Cyfarfod Dinbych, Tafarn yr Hand
17 Chwefror, 2010
|
Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd / Mon, Nos Iau, Chwefror 18fed, 7.30
18 Chwefror, 2010
|
Cyfarfod Bangor, Y Gath Dew
24 Chwefror, 2010
|
Cyfarfod Caernarfon, Swyddfa'r Gogledd, Palas Print
4 Mawrth, 2010
|
Noson Lansio'r Llyfr, Palas Print, Caernarfon
26 Mawrth, 2010
|
|
Rhagor...
|

|
|