tafod.jpg hafan cymdeithas.org baner-bach-munud-i-ddathlu.jpg . pwysig-hannercant.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Dyfodol Digidol
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Hanner Cant
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Sut i bostio lluniau i'r oriel

(Mae cyfarwydddiadau isod wedi'u seilio ar y gwreiddiol Saesneg yma.)

Mae gyda ti set o luniau o'r protest diweddaraf, ac wyt ti am eu llwythio nhw i fyny i adran lluniau gwefan Cymdeithas.com - sut mae wneud hynny? Darllena ymlaen.

  1. Cyn i ti ddechrau llwytho pethau i fyny mae rhaid wneud yn siwr o cwpl o bethau.

    1. Ydy'r lluniau yn rhy fawr i'r we?
      Nid pawb sydd â band llydan eto, cofia, felly sdim llawer o bwynt defnyddio lluniau mawr; mae 80k yn hen ddigon.
    2. Ydy enwau'r ffeiliau yn gall?
      Paid defnyddio pethau fel llun1.jpg, newid enwau y ffeiliau i rywbeth fel rali_fawr_2004_llun_01.jpg.
    3. Ydy'r lluniau yn y drefn iawn?
      Bydd y lluniau yn ymddangos yn y drefn ti'n eu lanlwytho, felly gyda'r lluniau sy'n "dweud stori" (sy'n dangos hanes a datblygiad rhyw brotest penodol, er enghraifft) mae'n bwysig dy fod di'n llwytho nhw mewn trefn gall neu bydd y lluniau o'r bobl yn cael eu harestio yn ymddangos cyn y rhai o'r un bobl dechrau ymgasglu.

  2. Reit, dyn ni'n barod i fynd!
    Mewngofnoda i'r sustem MT a mynd i'r tudalen golygu ar gyfer yr oriel.
  3. O'r ddewislen ar yr ochr chwwith, dewisa UPLOAD FILE. Bydd ffenest sydyn yn ymddangos:

  4. Ffeindio'r llun
    Rho glec ar Browse... a ffeindio'r llun cyntaf yn y set. Wedyn clicia'r botwm UPLOAD. Does dim angen newid dim byd arall yma, oni bai dy fod di wir eisiau. Mae <Local Archive Path> yn iawn.
  5. Ar ôl sbel bach mi weli di flwch deialog newydd:

    Mae sawl peth bach i wneud yma:

    1. Cadw nodyn o faint y llun. Yn yr enghraifft uchod, 401 x 426 picsel. Sgwenna fe i lawr rhywle.
    2. Creu cofod newydd. Dylai'r opsiwn 'ma fod wedi'i ddewis yn barod.
    3. Creu llun bach twt (thumbnail). Mae'n debyg y bydd rhaid i ti roi clec yn y bocs hwn.
    4. Newid maint y llun bach twt. Bydd y lluniau bach yn ymddangos mewn grid, felly mae'n bwysig eu bod nhw i gyd yr un maint. Newid maint yr ochr mwya i 96 picsel. Os oes tic yn y bocs Constrain proportions dylai seis yr ochr arall yn newid yn awtomatig wrth i ti wneud y cam nesa yma, sef
    5. Rho glec ar y botwm EMBEDDED IMAGE Bydd y ffenest sydyn yn diflannu, a byddi di nôl i'r prif rwngwyneb.
  6. Dylet ti weld y sgrin Create new entry a rhywbeth fel hyn:
  7. Copio'r tag img (y stwff sy wedi'i heileito yn y llun uchod) a'i gludo i mewn i'r bocs Excerpt.
  8. Yn ôl yn y bocs Entry body dileu tri pheth:
    1. Y tag <a href="http://cymdeithas.com/oriel/llun_gwych_01.jpg">
    2. Y testun -thumb yn tag img
    3. Yr </a> ar y diwedd

    Hefyd, newid y rhifau ar ôl width a height i'r maint o'r llun go iawn. Ie, y rhai sgwennaist ti i lawr yn gynnau fach.

    Bydd y sgrin yn edrych rhywbeth fel hyn:

  9. Rho deitl i'r llun
    Yn y bocs Title, rho rywbeth eitha cryno.
  10. Disgrifio'r llun
    Does dim angen wneud hyn, ond os wyt ti eisiau, rho disgrifiad o'r llun yn y bocs Extended entry. Bydd beth bynnag ti'n teipio yma yn ymddangos o dan y llun ar y wefan.
  11. Dewis (neu greu) categori i'r llun
    Oni bai bod y llun yn ffito mewn rhyw gategori sy wedi creu yn barod, bydd rhaid i ti greu categori newydd wrth creu cofnod am y llun cyntaf. Rho glec ar y saeth o dan Primary category a dewisa Add new category. Yn y bocs deialog, rho teitl i'r set o luniau ti'n llwytho i fyny. Dyma'r testun a fydd yn ymddangos ar ochr chwith yr oriel, felly edrych ar beth sydd 'na nawr i weld y fath o beth sy'n gweithio.

    Gyda gweddill y lluniau, bydd yn bosibl i ddewis y categori wyt ti newydd greu o'r rhestr tynnu-i-lawr.

  12. Dyna fe!
    Mae'n syniad da i sieco'r oriel i wneud yn siwr bod y llun cyntaf wedi ymddangos yn iawn. Os felly, nôl â ti i gam 3 i lanlwytho'r llun nesa.
  13. Un peth arall
    Os wyt ti moyn ychwanegu testun sy'n ymddangos ar y tudalen thumbnails, cer at y dudalen golygu categoriau a rho glec ar Edit category attributes am y categori priodol. Bydd beth bynnag ti'n rhoi yn y blwch 'na yn ymddangos yn awtomatig yn y lle iawn. Gweler y set 'ma o luniau protest Orange i weld beth sy 'da fi. Y busnes Am fwy o fanylion.. yw disgrifiad y categori. Fel y weli di, mae'n iawn i ddefnyddio HTML yn y blwch 'na, os wyt ti am gynnwys linc i dudalen briodol ar y brif ran o'r wefan.

Gobeithio bod hyn oll yn wneud sens. Os nady, .

Mwy yn yr un categori(au): Pethau
.

Newyddion
Rali Wylfa B: Brwydr teulu yn frwydr dros gymunedau Cymraeg
21 Ionawr, 2012
Jonathan Edwards AS a Rhodri Glyn Thomas AC yn cefnogi'r galwadau dros ddatganoli darlledu i Gymru
18 Ionawr, 2012
Gig 'Hanner Cant' - Tocynnau cyntaf yn mynd ar werth
17 Ionawr, 2012
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Saunders Lewis a'r mudiad iaith heddiw - Dr John Davies
8 Chwefror, 2012
Hyfforddiant Sianel 62 - Caerdydd
11 , 2012
Tynged yr iaith yng nghwmni Ned Thomas a Bethan Williams
13 Chwefror, 2012
Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg-Gwent
21 Chwefror, 2012
Defnyddia Dy Dafod: Cwrs Cymraeg Amgen - Blaenau Ffestiniog
21 Ebrill, 2012
Gwyl Hanner Cant - Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr
13 Gorffennaf, 2012
Dathlu 50 mlynedd o'n mudiad - Cyfarfod Cyffredinol Arbennig
15 Medi, 2012
Defnyddia Dy Dafod: Cwrs Cymraeg Amgen - Tresaith
19 Hydref, 2012
Rhagor...

nôl i'r brig