Herio dros y Gymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio deiseb 'Gyrrwch yn Gymraeg ar y Dydd Llun, yn lansio gwefan newydd ar y Dydd Mercher a'n cynnal protest yn erbyn Elwa ar y Dydd Gwener. Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd 29-30
Dydd Llun Mai 31ain
Protest ‘Gyrrwch yn Gymraeg’ 1 o’r gloch Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg) Ar hyn o bryd mae’r Asiantiaeth Safonau Gyrru yn methu cynnig gwasanaeth Cymraeg i Gymry ifanc sydd am ddysgu gyrru. Mae hyn wedi digwydd er fod gan yr Asiantiaeth Ddysgu Gyrru Gynllun Iaith sydd wedi ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Yn yr Eisteddfod bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio deiseb sy’n galw ar i’r ASG i ‘ddarparu gwasanaeth safonol cyflawn Cymraeg. Yn ogystal dylai’r gwallau iaith mewn profion gael eu cywiro, a dylai’r gwaith cyfieithu gael ei wneud yn swyddogol i sicrhau’r cywirdeb iaith angenrheidiol’.
Fel rhan o’r lansiad bydd y Gymdeithas wedi trefnu theatr awyr agored er mwyn dangos unwaith eto mai’r hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau fod sefydliadau tebyg i’r ASG yn dilyn polisi dwyieithog yw Deddf Iaith Newydd
Dydd Mercher Mehefin 2il
Am un o’r gloch bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio ei gwefan
newydd. Nid gwefan gyffredin fydd hon ond gwefan ymgyrchu newydd. Bydd
modd i’n haelodau ddefnyddio’r wefan:
i fynegi cwynion am eu hanallu i dderbyn gwasaneth Cymraeg cyflawn neu
i son am unrhyw ddatblygiad sy’n peryglu eu cymunedau
i gysylltu’n uniongyrchol â gweinidogion y Cynulliad a swyddogion
Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
bydd modd ymaelodi â’r Gymdeithas ar y we a maes o law bydd modd prynu nwyddau ar lein hefyd
Dydd Gwener Mehefin 4ydd
Cyfarfod tu allan i uned y Gymdeithas. Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymuno gyda chynrychiolwyr o’r byd addysg i brotestio yn erbyn Elwa. Mae gan y cwango hwn fwriad i gau dosbarthiadau chweched dosbarth yng Ngwynedd ac felly tanseilio llawer o’n hysgolion uwchradd. Ymysg y rhai sy’n cymryd rhan yn y brotest mae Dewi Gwyn (Cynrychiolydd UCAC yng Ngwyned), Dewi Jones, (Prifathro Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle ) a Lois Adams (Cynrychiolydd Ffederasiwn Myfyrwyr Gwynedd).
Mwy yn yr un categori(au): Eisteddfodau
| Newyddion
|