tafod.jpg hafan cymdeithas.com pwysig-materion-cym.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Radio Carmarthenshire - Ni'n Gwrando!

radio_carmarthenshire.JPG Heddiw, 13/6/04, mae Radio Carmarthenshire yn dechrau darlledu go iawn yn Sir Gâr, ac ar drothwy’r digwyddiad hwn fe gododd aelodau o Gymdeithas yr Iaith faner ar fast trosglwyddo Carmel ger Cross Hands. Mae’r neges ar y faner yn syml – “ni’n gwrando”.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae Radio Carmarthenshire wedi bod yn darlledu darllediadau prawf yn uniaith Saesneg. Mae nifer o’n haelodau wedi bod yn gwrando, ac er bod Radio Carmarthenshire yn honni bod llawer o’r trelars yn Gymraeg, does neb wedi’u clywed. Pan ysgrifennodd un o’n haelodau at Keri Jones (Rheolwr Gyfarwyddwr Radio Carmarthenshire) i gwyno am hyn a’r ffaith bod yr holl gerddoriaeth yn Saesneg hefyd, cafodd ymateb diddorol a dadlennol. Dywed Keri Jones yn ei ateb:

“it appears that Radio Carmarthenshire / Radio Sir Gâr is not to your personal taste. We can’t please everyone can we! ….I admit defeat and I guess that you’ll be going back to Radio Cymru.”

Mae’r orsaf radio lleol yma i fod i wasanaethu holl drigolion Sir Gâr, ond ymddengys ei bod yn anwybyddu’r Cymry Cymraeg. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn gwrando’n astud ar y ddarpariaeth o hyn tan ddiwedd mis Mehefin ac yn ymateb yn ôl yr hyn a glywn ar yr orsaf newydd.

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Darlledu | Newyddion
.

Newyddion
Iceland yn Llusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Iâ
19 Chwefror, 2009
Gig er mwyn Gasa
9 Chwefror, 2009
Llongyfarch cynghorwyr Gwynedd am eu parodrwydd i wrando
5 Chwefror, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Fforwm Agored - Ad-drefnu Ysgolion Cefn Gwlad
21 Chwefror, 2009
Can i Gasa: Steve Eaves, Gwilym Morus, Caernarfon
13 Mawrth, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig