tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Penwythnos Brwydr y Bandiau yn Aberystwyth

logo_adloniant_tafod.jpg
Un o brif amcanion Grŵp Adloniant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ydy hybu talentau ifanc cerddoriaeth Cymraeg. Yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth yn Eisteddfod 2002 a 2003, bydd y Gymdeithas unwaith eto yn cynnal cystadleuaeth ‘Brwydr y Bandiau’ yn Eisteddfod Casnewydd 2004.

Ers y flwyddyn newydd mae’r grŵp wedi bod yn gwahodd bandiau newydd i gystadlu ac mae’r ymateb wedi bod yn arbennig o dda eto eleni. Mae’r ymateb wedi bod cystal, nes fod angen trefnu rhagbrofion cyn wythnos yr Eisteddfod i benderfynu ar y 4 band a fydd yn camu ymlaen i’r rownd derfynol yng Nghlwb Pont Ebwy, Casnewydd! Oherwydd hyn, bydd y Gymdeithas yn trefnu ‘Penwythnos Brwydr y Bandiau’ yn Aberystwyth i gynnal y rhagbrofion ac i ddathlu llwyddiant y gystadleuaeth yn y gorffennol.

poster_brwydr_yr_bandiau.JPG Bydd y penwythnos yn dechrau gyda’r rhagbrawf cyntaf yn Nhafarn y Cwps ar Wener, Gorffennaf 2ail a bydd ennillwyr Brwydr y Bandiau 2002, Mattoidz, yn gwneud set arbennig i ddiweddu’r noson. Bydd yr ail ragbawf eto yn y Cwps ar nos Sadwrn, Gorffennaf 3ydd ble bydd set gan enillwyr Eisteddfod Maldwyn y llynedd, Fenks, yn dilyn y gystadleuaeth. Bydd y ddwy noson yn rhai hwyliog tu hwnt ac yn gyfle gwych i weld rhai o dalentau newydd mwyaf addawol cerddoriaeth Cymraeg yn mynd drwy eu pethau. Cofiwch, fe’u clywsoch yma gyntaf!!

Bydd y rownd derfynnol yn cymryd lle yng Nghlwb Pont Ebwy, Casnewydd ar nos Fercher, Awst 3ydd, pryd bydd Fenks a un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd, Kentucky AFC yn chwarae hefyd. Bydd yr ennillwyr yn mynd ymlaen i gefnogi Anweledig ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod, ac yn cael cyfle i recordio sesiwn i raglen C2, Radio Cymru!

Am ragor o wybodaeth ynglyn a ‘Penwythnos Brwydr y Bandiau’ neu gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod, e-bostiwch bandiau@cymdeithas.com neu ffonio Owain Schiavone(Swyddog Adloniant) ar 07813050145. Gallwch hefyd ymweld a gwefan arbennig y gigs www.cymdeithas.com/gigscasnewydd/

MATTOIDZ + BYB - Nos Wener 02/07/04 - Y Cwps Aberystwyth
FENKS + BYB - Nos Sadwrn 03/07/04 - Y Cwps Aberystwyth

Mwy yn yr un categori(au): Adloniant | Ceredigion | Eisteddfodau | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig