tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Protest llwyddiannus yn dod i ben gydag addewid am ragor o arian i'r farchnad dai

adeiladau_cynulliad_llandrillo.JPG Daeth protest lwyddiannus gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ben to swyddfa'r Cynulliad Cenedlaethol yn Llandrillo yn Rhos i ben am ddeuddeg o'r gloch prynhawn heddiw. Protest oedd hon a alwai ar i lywodraeth y Cynulliad neilltuo mwy o arian yn ei chyllideb nesaf ar gyfer y farchnad dai yng Nghymru.

Ar ddiwedd y brotest oedd wedi dechrau am 7 o’r gloch y bore cafodd y protestwyr gyfarfod gyda swyddogion o Adran dai y llywodraeth oedd yn gweithio yn yr adeilad. Rhoddwyd ar ddeall i’r protestwyr fod y llywodraeth yn bwriadu neilltuo mwy o arian ar gyfer y farchnad dai yn ei chyllideb nesaf.

Dywedodd Huw Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac un o’r protestwyr ar y to,

"Yr ydym yn croesawu'r ffaith fod y llywodraeth yn bwriadu neilltuo mwy o arian ar gyfer y farchnad dai ac yn gobeithio y bydd cynnydd sylweddol yn yr arian a neilltuir ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu."

"Yn yr un modd gobeithiwn y bydd arian digonol ar gyfer sefydlu cronfa newydd fydd yn rhoi hawl i bobl rentu tai ac eiddo yn eu cymunedau lleol. Dylai y gronfa hon alluogi Cymdeithasau Tai i brynu unedau sydd ar werth yng nghanol ein trefi a’n pentrefi a’u gosod i deuluoedd lleol."

Darllenwch stori'r Daily Post arlein.

Mwy yn yr un categori(au): Clwyd | Cymunedau Rhydd | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig