tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Protestio ar y to er mwyn tynnu sylw at argyfwng tai

deddf_eiddo.gif Am saith o’r gloch bore heddiw (Dydd Iau Gorffennaf 8fed) dringodd nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar do adeilad Llywodraeth Cymru yn Llandrillo yn Rhos er mwyn tynnu sylw at y broblem tai yng Nghymru.

Hon fydd yr ail mewn cyfres o brotestiadau y bydd Cymdeithas yr Iaith yn ei drefnu dros yr haf ar bwnc tai yng Nghymru. Cynhaliwyd y gyntaf yn adeiladau’r llywodraeth yng Nghaernarfon rai wythnosau yn ôl.Dywedodd Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac un o’r protestwyr:

“Yr ydym am weld Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymo y bydd yn ei chyllideb nesaf ym Mis Tachwedd yn sicrhau cynnydd sylweddol yn yr arian sy’n cael ei ddarparu ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu.

“Dylai’r Llywodraeth hefyd, yn ei chyllideb nesaf, ddarparu cyllid ar gyfer cronfa newydd fydd yn rhoi hawl i bobl rentu tai ac eiddo yn eu cymunedau lleol. Dylai’r gronfa hon alluogi cymdeithasau tai i brynu unedau sydd ar werth yng nghanol ein trefi a’n pentrefi a’u gosod i deuluoedd lleol. Yn ôl y drefn yma byddai’r teulu yn gwneud cais i rentu tŷ sydd ar y farchnad ac yna byddai elfen o gymhorthdal drwy’r gronfa newydd i sicrhau rhent teg.

“Yr ydym fel Cymdeithas wedi cyfarfod a nifer o Aelodau’r Cynulliad i drafod y materion hyn ac mae Edwina Hart y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi addo rhoi ystyriaeth ddifrifol i’n gofynion. Mae’n bwysig felly ein bod yn parhau i bwyso’n galed ar lywodraeth y Cynulliad er mwyn gwneud yn siwr ei bod yn cymryd o ddifri yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymru”

Pwyswch ar y ddolen i fynd i adran Ymgyrch Cymunedau Rhydd o'r wefan

Mwy yn yr un categori(au): Clwyd | Cymunedau Rhydd | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig