tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cymdeithas yr Iaith v Bandiau Pont Ebwy

gem_beldroed_bandiau_cymdeithas.jpg Ar y dydd Iau yn ‘Steddfod Casnewydd bydd gwledd arbennig i gefnogwyr pêl-droed a cherddoriaeth fel ei gilydd. Oherwydd ar y diwrnod hwn ar gae chwaraeon maes yr Eisteddfod bydd gornest bêl-droed fawreddog yn cymryd lle wrth i dîm Bandiau Pont Ebwy herio tîm Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Bydd y gêm yn dechrau am 3:00y.h. a disgwylir torf fawr i ymgasglu i wylio’r gêm arbennig hon i hyrwyddo gigs y Gymdeithas yng Nghlwb Pont Ebwy.

Bydd gigs y Gymdeithas yn cymryd lle mewn dwy ganolfan yng Nghasnewydd eleni sef y Clwb Gwyddelig a Chlwb Pont Ebwy. Clwb Pont Ebwy ydy’r ganolfan agosaf i holl ddigwyddiadau’r eisteddfod eleni, tua 10 munud o gerdded o’r Maes. Mae’r clwb yn adlewyrchu diwylliant yr ardal ddiwydiannol hwn i’r dim ac mae’n leoliad perffaith i gynnal gigs o safon. Yn ogystal â hyn, mae’r Clwb yn cynnig diodydd rhad, bwyd a sesiynau Abri arbennig trwy gydol y prynhawniau.

Mae’r gêm arbennig hon wedi’i threfnu fel arwydd o ewyllys da rhwng y bandiau sy’n perfformio a’r Gymdeithas, sydd wedi bod yn trefnu gigs yn flynyddol yn yr Eisteddfod ers y 1970au. Ymysg chwaraewyr ‘tîm y bandiau’ bydd aelodau o Kentucky AFC, Texas Radio Band, Ashokan a Frizbee felly dewch i gefnogi eich hoff fand ac i farnu os ydynt gystal ar y cae a beth ydynt ar y llwyfan!!

Nid dim ond yn nhîm y bandiau fydd sêr Cymru yn ymddangos – bydd Dafydd Du yn dyfarnu’r gêm a bydd Dylan Ebenezer yn rhoi sylwebaeth arbennig ar yr holl ddigwyddiad!

Yn dilyn y gêm bydd gwahoddiad i bawb symud ymlaen i Glwb Pont Ebwy ble bydd Sesiynau prynhawn Abri yn cymryd lle a ble bydd cyfle i drafod holl gynnwrf y gêm dros beint. Yn perfformio yn hwyrach ymlaen y noson honno yn y clwb bydd Pep le Pew, Lo Cut a Sleifar a Jakokoyak yn ogystal â Bethan Elfyn a Huw Stephens yn Djio – gig gwych fel uchafbwynt i ddiwrnod prysur.

Am ragor o wybodaeth yngln â’r gêm, gigs y Gymdeithas neu unrhyw beth arall, ymwelwch â www.cymdeithas.com/gigscasnewydd, neu ffoniwch Swyddfa’r Gymdeithas: 01970 624 501. Gallwch hefyd gysylltu â Owain Schiavone (Swyddog Adloniant) ar owain@cymdeithas.com, neu 07813 050 145.

Mwy yn yr un categori(au): Adloniant | Eisteddfodau | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig