tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Gig Nos Lun y ‘Steddfod: ‘Colli Tir, Colli Iaith’

Heather Jones Bydd cychwyn trawiadol i adloniant Cymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod gyda'r gig Nos Lun "Colli Tir - Colli Iaith" yng nghlwb Pont Ebwy sydd o fewn 10 munud o gerdded i'r Maes Ieuenctid a 3 munud o'r Maes Carafannau.

Ar ben y rhestr bandiau yn y gig, bydd Drumbago yn cyflwyno'u set unigryw. Ond, yng nghanol y gig, diffoddir y swn a'r goleuadau i glywed llais di-gyfeiliant Heather Jones yn canu "Colli Iaith".

Dyma gyhoeddi thema wythnos yr Eisteddfod a lansio cyfnod newydd yn hanes Cymdeithas yr Iaith a'r frwydr dros y Gymraeg. Bydd y cefnlen ar y llwyfan yn cyhoeddi'r neges :

"CYMRU 2020 - Colli Tir, Colli Iaith - DEFFRWCH !"

Yn ôl tueddion presennol, ni bydd unrhyw gymunedau Cymraeg ar ôl erbyn y flwyddyn 2020, a bydd llawer o'r enillion o ran statws yr iaith ac addysg Gymraeg wedi cael eu colli wrth fod grym globaleiddio a chanoli a rhan y sector preifat yn cynyddu. Bydd hyn yn digwydd onibai fod ein pobl yn deffro ac ymroi o'r newydd mewn cyfnod newydd yn y frwydr dros barhad yr iaith a'n cymunedau Cymraeg. Mae parhad cymunedau Cymraeg hyfyw yn cynnig gobaith i ddysgwyr mewn ardaloedd fel Casnewydd hefyd.

Galwad i'r gâd sydd gan Gymdeithas yr Iaith, a bydd yn cychwyn yn y gig Nos Lun yr Eisteddfod.


Am ragor o wybodaeth ynglyn â gigs y Gymdeithas yn yr Eisteddfod neu unrhyw beth arall, ymwelwch â www.cymdeithas.com/steddfod2004, neu ffoniwch Swyddfa’r Gymdeithas: 01970 624 501. Gallwch hefyd gysylltu â Owain Schiavone (Swyddog Adloniant) ar owain@cymdeithas.com , neu 07813 050 145.

Mwy yn yr un categori(au): Adloniant | Eisteddfodau | Morgannwg Gwent | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig