|
|||||
|
|
|
“We never have played Welsh music and we never will!”
Cafodd 11 o'r protestwyr eu harestio. Heledd ap Gwynfor, Heledd Gwyndaf, Gwenno Teifi, Steffan Cravos, Aled Vaughan, Llinos Dafydd, Rhiannon Lewis, Betsan Jones, Menna Machreth, Angarad Blythe a Catrin Howells. Meddianwyd pencadlys Radio Carmarthenshire yn Arberth Sir Benfro i wrando ar swn y DJ Cymraeg MCSleifar (Steffan Cravos - sy'n wreiddol o Gaerfyrddin ond yn awr yn DJ Radio ym Mhontypridd i GTFM), ar waethaf ymffrost y Prif Weithredwr , Keri Jones, nad oedd Radio Sir Carmarthenshire “erioed wedi chwarae gerddoriaeth Gymraeg ac na fyddai byth yn gwneud hynny.” Mae’r weithred hon yn gychwyn ymgyrch benderfynol gan Gymdeithas yr Iaith i bwyso ar OFFCOM i ddiddymu trwydded Radio Carmarthenshire gan nad yw’n orsaf leol nac yn cyflawni ei chyfrifoldeb at yr iaith na’r gymuned leol. Yn ystod mis cyntaf darlledu’r orsaf newydd yr ydym wedi darganfod fod ei chynnyrch Gymraeg yn gyfyngedig i : * Rhaglen nosweithiol honedig Gymraeg o 7pm i 10pm sy’n darlledu cerddoriaeth Saesneg yn unig trwy orchymyn y cwmni Dyw hon ddim chwaith yn orsaf leol yn gwasanaethu Sir Gaerfyrddin. Er ei bod yn ceisio cuddio’r ffaith trwy ddefnyddio cyfeiriad post yn Llanelli, mae’r holl ddarlledu mewn gwirionedd o stiwdio Radio Pembrokeshire yn Arberth. Does dim unrhyw ddarlledu Cymraeg yn fyw ac fell nid oes unrhyw bosibiliad i siaradwyr Cymraeg gymryd rhan mewn rhaglenni. O gael ei herio gyda’r ffeithiau hyn, dywedodd Keri Jones (Pri Swyddog Gweithredol Radio Carmarthenshire) wrth Aled Vaughan o Gymdeithas yr Iaith * “Efallai fod 50% o bobl Sir Gar yn siarad Cymraeg ond mae 100% yn siarad Saesneg” Gwnaeth e hefyd fygwth cwtogi awr ar y rhaglen nosweithiol “Gymraeg” os bydd Cymdeithas yr Iaith yn parhau i gwyno. Ei ymateb anhygoel i Lowri Gwenllian trwy e-bost oedd yn Saesneg: “Ymddengys nad yw Radio Carmarthenshire wrth eich bodd yn bersonol. Allwn ni ddim plesio pawb, cerwch yn ôl at Radio Cymru.” Gall e fod yn sicr y byddwn ni’n dychwelyd at Arberth i barhau gyda’r ymgyrch hon. Western Telegraph 29/07/04 Teifi Seid 28/07/04 Western Mail 26/07/04 Western Mail 27/07/04 Western Mail 30/07/04 Western Mail 11/08/04 Stori BBC Cymru'r Byd Erthygl ar Eurolang Llythr gan John Eckersley yn y Carmarthen Journal Llythr gan Mabon ap Gwynfor yn y Carmarthen Journal Llythr gan Llinos Dafydd yn y Carmarthen Journal Llythr gan Iwan Evans yn y Carmarthen Journal Llythr gan Gwyn Jones yn y Western Mail Pwyswch yma i weld y lluniau a Toriadau papurau newydd o'r digwyddiad Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro
| Darlledu
| Newyddion
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| nôl i'r brig | ||||