tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Parti lansio EP Anweledig

Anweledig Bydd gig mwyaf calendr y sin roc Gymraeg yn dod a digwyddiadau’r Eisteddfod i ben eleni wrth i fand mwyf poblogaidd Cymru ryddhau eu EP newydd ar nos Sadwrn olaf Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. Bydd Anweledig yn cynnal Parti Lansio eu CD diweddaraf, Byw, yng Nghlwb Pont Ebwy, sef prif ganolfan gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y ‘Steddfod!

Bydd nifer o gefnogwyr Anweledig yn gyfarwydd â rhai o’r caneuon sydd yn ymddangos ar yr EP, wedi eu clywed mewn gigs yn arwain i fyny at yr wyl, ond yr Eisteddfod fydd y cyfle cyntaf i bobl allu prynu’r CD newydd. Bydd y Parti yn ffordd addas iawn o gloi wythnos brysur o gigs y Gymdeithas yng Nghlwb Pont Ebwy ac yn uchafbwyt a diweddglo gwych i holl ddigwyddiadau yr Eisteddfod.

Clwb Pont Ebwy fydd ‘Y’ lle i fod i ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg yn ystod wythnos yr Eisteddfod gyda sesiynnau Abri yn cymryd lle yn y bar ‘lounge’ trwy gydol y prynhawniau yn cael eu dilyn gan gyfres o gigs di-guro yn ystod y nosweithiau. Mae’r Clwb yn lleoliad perffaith ar gyfer cynnal gigs i’r Eisteddfod gan ei fod yn enghraifft dda o ddiwylliant ardal ddiwydiannol Casnewydd. Dywedodd Owain Schiavone, Swyddog Adloniant y Gymdeithas “Mae’r ganolfan yn fy atgoffa i o Pheonix Nights ond mewn ffordd hollol cool”.Mae’r ganolfan hefyd yn brolio bwyd da a diodydd rhad trwy gydol yr wythnos i blesio’r dyrfa, tra fod ‘set-up’ gwych i gadw’r bandiau’n hapus….a hyn i gyd o fewn 10 munud o gerdded o’r maes pebyll!!

Mae nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod bob amser ychydig bach yn arbennig ond bydd y parti yng Nghlwb Pont Ebwy eleni yn rywbeth i’w gofio am flynyddoedd i ddod. Mewn noson sy’n cael ei noddi gan label newydd Rasal bydd yr ymdeimlad o barti yn rhedeg trwy gydol y nos gyda enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau sy’n cymryd lle ar y nos Fercher, yn agor y noson, a wedyn Winabego yn cael eu dilyn gan Nar - sydd hefyd yn dathlu rhyddhau deunydd newydd! Bydd nifer o gynigion arbennig i’r gynulleidfa yn ystod y noson gyda phecynnau CD’s yn cael eu rhoi i ffwrdd yn ogystal a amryw anhregion eraill!

Y peth gorau am y parti arbennig hwn yw fod gwahoddiad i bawb ddod yno i ddathlu a mwynhau yr holl ddigwyddiad gyda’r bandiau. Felly dewch i ymuno â’r hwyl ac i chwarae eich rhan yn uchafbwynt wythnos Eisteddfod Casnewydd.

Am ragor o wybodaeth yngly^n â gigs y Gymdeithas yn yr Eisteddfod neu unrhyw beth arall, ymwelwch â www.cymdeithas.com/gigscasnewydd, neu ffoniwch Swyddfa’r Gymdeithas: 01970 624 501. Gallwch hefyd gysylltu â Owain Schiavone (Swyddog Adloniant) ar owain@cymdeithas.com, neu 07813 050 145.

Mwy yn yr un categori(au): Adloniant | Eisteddfodau | Morgannwg Gwent | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig