hafan cymdeithas.com  
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Deddf Iaith Newydd
Cymunedau Rhydd
Addysg
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Codi Arian
Y Cyf Cyff
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Nwyddau
Rhygwladol
Y Senedd
Y Tafod

Gwasg
Gwleidyddion

Pages in English
 

Gigs Tafod yn Steddfod Casnewydd

Y CANOLFANAU, Y BANDIAU A'R PRISIAU GORAU


Unwaith eto eleni bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal eu gigs yng nghanolfanau gorau ardal yr Eisteddfod. Mewn cydweithrediad â thrigolion yr ardal, mae'r Gymdeithas yn cynnig dau leoliad arbennig, gyda arlwy gerddorol gynhyrfus o'r safon uchaf fel arfer.

Yn ogystal, er mwyn cynnig y fargen orau i bob Eisteddfodwr, mae'r Gymdeithas yn gobeithio na fydd pris mynediad unrhyw noson yn codi yn uwch na £5.

Y cyntaf o'r canolfannau hyn yw Clwb Pont Ebw, sef y ganolfan agosaf i'r maes ieuenctid ac sydd o fewn pellter cerdded i holl ddigwyddiadau'r Eisteddfod. Ymysg yr artistiaid fydd yn perfformio yno fydd rhai o fandiau amlycaf Cymru, yn cynnwys Texas Radio Band, Pep le Pew, Kentucky AFC ac Anweledig.

Yr ail ganolfan fydd y Clwb Gwyddelig yng Nghasnewydd sydd yn lleoliad hynod o boblogaidd o fewn y ddinas. Bydd rhai o hoelion wyth cerddoriaeth Gymraeg yn perfformio yn y ganolfan yma, yn cynnwys Meic Stevens, Dom, Bob Delyn a'r Ebillion a Geraint Lovgreen.

Poster Brwydr y BandiauBydd Cymdeithas yr Iaith unwaith eto yn hybu talent newydd Cymru trwy gynnal cystadleuaeth Brwydr y Bandiau arbennig ble bydd cyfle i'r enillwyr berfformio ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod (gweler poster i'r dde - rho glec am fersiwn mwy)! Ebrill 1 yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau a bydd rhagbrofion yn cael eu cynnal cyn yr Eisteddfod.

Gorffennaf 31, 2004 | Adloniant , Chwith trendi , Eisteddfodau

Newyddion
Ymateb i Gomisiwn Richard: Deddf Gyntaf - Deddf Iaith Newydd
31 Mawrth, 2004
Brwydr y Bandiau 2004 - Eisteddfod Casnewydd
25 Mawrth, 2004
Cynigion a basiwyd yn Cyf Cyff 2004
7 Mawrth, 2004
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Gig Abri mis Ebrill
29 Ebrill, 2004
Gig Abri mis Mawrth
25 Mawrth, 2004
Rhagor...

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.63
Ffrwd RDF (XML)
 

nôl i'r brig