tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Sky TV - “Who are’ya”!

SKY Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwestiynu’r penderfyniad Awdurdodau’r Steddfod i roi safle ar y maes i Sky TV. Ymddangosent gydag arddangosfa symudol mewn prif safle wrth y Pafiliwn Ddydd Sadwrn. Roedd eu harddangosfa gosod a rhyngweithiol oll yn uniaith Saesneg haeblaw am 1 poster bach o waith cartre’n gwahodd Eisteddfodwyr i wylio gemau rhyngwladol pêl-droed Cymru’n fyw ar Sky yn y dyfodol.

Aeth llawer o Eisteddfodwyr atynt i bwyntio allan fod Sky mewn gwirionedd yn amddifadu’n pobl o’r hawl i glywed sylwebaeth fyw yn Gymreag ar gemau Cymru gan iddynt brynu’r hawliau ecsliwsif a darlledu’n Saesneg yn unig. Datganodd Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith,

“nad oedd yn deall pam fod y Steddfod wedi gosod safle i gwmni felly. Roedd Sky’n gweithredu’n union fel tim bant o gartre – heb ddealltwriaeth o’r maes na’r iaith na’r cefnogwyr gartre." Ychwanegodd :

“Dyma brofi unwaith eto osodiad Cymdeithas yr Iaith yr wythnos hon - 'Cymru 2020: Colli Iaith, Colli Tir' - gan fod y Gymraeg yn colli tir ym maes darlledu hwfyd. Ugain mlynedd yn ôl, roedd S4C newydd yn un sianel o blith pedair, a Radio Cymru’n un donfedd ymhlith rhyw hanner dwsin o brif orsafau radio yng Nghymru."

"Erbyn y flwyddyn 2020, bydd pobl Cymru’n gwylio degau o sianeli teledu fel Sky, ac yn gwrando ar orsafau radio lleol fel Radio Sir Gâr sydd wedi alltudio’r Gymraeg bron yn gyfangwbl. Dyma’r cwmniau preifat sydd wedi ennill y trwyddedi neu bynru’r hawl i orfodi eu diwylliant arnom. Cawn ein gorfodi i wylio, gwrando a thrafod popeth – o bêl-droed hyd foreau coffi’n Sir Gâr – yn Saesneg."

“Colli tir y mae’r Gymraeg ym maes darlledu hefyd – a dyma her ymgyrchu pellach i Gymdeithas yr Iaith”

Mwy yn yr un categori(au): Darlledu | Eisteddfodau | Morgannwg Gwent | Newyddion
.

Newyddion
DIM UN ty fforddiadwy ym Mhont-Tyweli
11 Awst, 2008
Ymgyrch coleg Ffederal Cymraeg - Ymgyrch Pawb
6 Awst, 2008
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Caerdydd 2008
2 Awst, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Achos Llys, Osian Jones a Steffan Cravos, CAERNARFON
13 Awst, 2008
Rali Flynyddol, Y Rhybudd Olaf, ABERYSTWYTH
25 Hydref, 2008
Cyfarfod Cyffredinol, ABERYSTWYTH
25 Hydref, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig