tafod.jpg hafan cymdeithas.com pwysig-materion-cym.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Cyfarfod Cyhoeddus - Y Gymraeg a'i hawliau

Meirion Prys Am 2yh heddiw, bydd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr newydd, Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cymeryd rhan mewn cyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bwriad y cyfarfod – ‘Y Gymraeg a’i Hawliau’ – yw i drafod yr angen am Deddf Iaith Newydd. Bydd Elin Haf Gruffydd Jones, o ganolfan Mercator ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, a Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, hefyd yn cymeryd rhan yn y cyfarfod.

Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
“Mae sicrhau Deddf Iaith Newydd yn gam hollbwysig os ydym am ddiogelu hawliau siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio ac i dderbyn gwasanaethau trwy gyfrwng yr iaith.

“Daw hyn hyd yn oed yn fwy pwysig,o ystyried ein bod bellach yn byw mewn oes lle mai cymaint o wasanaethau yn cael eu cynnig gan gwmniau preifat. Dros y blynyddoedd diwethaf, preifateiddiwyd llawer o’r hen gyfleustodau (dwr, nwy, trydan a’r rheilffyrdd), gan olygu nad oes gan gwsmeriaid bellach yr hawl i fynnu gwasanaethau Cymraeg ganddynt. Ar yr un pryd, mae’r holl ddatblygiadau modern a dylanwadol a fu ers 1993 yn eiddo i’r sector breifat ac felly yn medru anwybyddu’r Gymraeg yn llwyr.

Trwy edrych i’r dyfodol i’r flwyddyn 2020, fe welir y bydd hyn yn dwyshau ymhellach wrth i ddylanwad y sector breifat gynyddu ac felly bydd siaradwyr Cymraeg yn colli cyfleoedd i weld a defnyddio’r iaith. O ganlyniad mae pwnc y cyfarfod prynhawn yma yn bethnasol i neges gyffredinol Cymdeithas yr Iaith am wythnos yr Eisteddod; sef bod yr iaith Gymraeg mewn peryg o golli tir ar raddfa gyflym iawn rhwng nawr a’r flwyddyn 2020.”

Yn ystod y cyfarfod fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio yr ‘Alwad Genedlaethol am Dystiolaeth o’r Angen am Ddeddf Iaith’. Eisioes, mae’r Gymdeithas wedi ysgrifennu at lu o fudiadau Cymreig gan ofyn iddynt am eu cefnogaeth yn yr ymgyrch hon.

Penderfynwyd i lansio’r alwad hon yn dilyn sylwadau gan Meirion Prys Jones rai wythnosau yn ôl. Bryd hynny, fe bwysleisiodd ei fod ef, a’r Bwrdd Iaith, yn ddigon parod i ystyried yr angen am Ddeddf Iaith Newydd, ond bod hynny yn dibynnu ar brofi y galw a’r angen am fesur o’r fath. Mae Cymdeithas yr Iaith yn hapus i dderbyn yr her honno ac felly dros y misoedd nsaf fe fydd y mudiad yn canolbwyntio ar gasglu tystiolaeth o’r angen am Ddeddf Iaith Newydd, gan wahodd mudiadau Cymreig eraill i ymuno gyda hwy yn yr ymgyrch.

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Eisteddfodau | Morgannwg Gwent | Newyddion
.

Newyddion
Iceland yn Llusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Iâ
19 Chwefror, 2009
Gig er mwyn Gasa
9 Chwefror, 2009
Llongyfarch cynghorwyr Gwynedd am eu parodrwydd i wrando
5 Chwefror, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Fforwm Agored - Ad-drefnu Ysgolion Cefn Gwlad
21 Chwefror, 2009
Can i Gasa: Steve Eaves, Gwilym Morus, Caernarfon
13 Mawrth, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig