tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cyfarfod Protest – Cyllidwch ein Cymunedau

deddf_eiddo.gif Am 2yh bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfarfod protest er mwyn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i weithredu ar frys er mwyn lleddfu’r argyfwng tai. Gelwir arnynt i wneud hynny, trwy ddarparu cynnydd sylweddol yn y gyllideb tai, erbyn mis Tachwedd yma.

Erbyn mis Tachwedd dylai’r Llywodraeth:

· ddarparu arian digonol ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu
· sefydlu’r egwyddor o’r Hawl i Rentu

Fel y rhybyddia Cymdeithas yr Iaith, ni fydd unrhyw gymuned naturiol Gymraeg ar ôl erbyn 2020, os ydy’r tueddiadau presennol yn parhau. Felly mae angen i’r Llywoadraeth i ymateb ar frys.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn lobio yn galed ers dwy flynedd i geisio cael llywodraeth y Cynulliad i wneud mwy i leddfu’r broblem dai yn ein cymunedau. Yr ydym wedi cynnal cyfarfodydd gyda gwleidyddion o bob plaid yn eu hetholaethau a lobio yn San Steffan a ‘r Cynulliad. Er mwyn tynnu sylw at y broblem bu i ni eleni feddiannu swyddfeydd y llywodraeth yng Nghaernarfon a Chaerfyrddin a dringo i ben to swyddfeydd y llywodraeth yn Llandrillo.

Un o’r aelodau Cynulliad sydd wedi bod yn fwyaf cefnogol i’n hymgyrch yw Leanne Wood aelod o’r Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac fe fydd hi yn siarad yn y gwrthdystiad heddiw.

Drwy’r wythnos hefyd fe fydd tyrfaoedd ar Faes yr Eisteddfod wedi cael cyfle i arwyddo cerdyn post arbennig sydd wedi ei gyfeirio at Edwina Hart y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gofyn iddi hi weithredu ar frys drwy fynnu fod arian digonol yn cael ei neilltuo i leddfu’r broblem dai yn ein cymunedau.

Mwy yn yr un categori(au): Cymunedau Rhydd | Eisteddfodau | Morgannwg Gwent | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig