Taith y Copaon: Awst 19 - Awst 28 2004
Deg copa mewn deng niwrnod - er mwyn codi arian i goffrau Cymdeithas yr Iaith!
Taith gerdded noddedig fydd hon yn dringo rhai o fynyddoedd enwocaf Cymru. Beth am ymuno yn y daith? Does dim rhaid i ti ddringo bob mynydd! Gelli ymuno am ddiwrnod neu ddau. Dyma gyfle gwych i gyfarfod nifer o bobl a gwneud cyfraniad pwysig i Gymdeithas yr Iaith ar yr un pryd!
Neu beth am gefnogi trwy gyfrannu'n arianol arlein?
Bydd angen teipio'r swm yn y blwch isod:

Er mwyn cymryd rhan yn y daith gerdded, cysyllta â phrif swyddfa’r Gymdeithas a mynd ati i gasglu noddwyr! (ffurflen noddi pdf)
Yr Amserlen
Yr Aran – Iau, Awst 19
YN Y DYDD: Cyfarfod am 10 y bore yn y maes parcio ym mhen pella Llanuwchllyn.
GYDA'R HWYR: Gig Frizbee a Pala, 8pm, Y Plas Coch, Bala.
Cadair Idris – Gwener, Awst 20
YN Y DYDD: Cyfarfod am 10 y bore ym maes parcio Ty Nant, dri chwarter milltir i’r de o Lyn Gwernan.
GYDA'R HWYR: Gig Frizbee a Alun Tan Lan, 8pm, £4, Y Llew Coch, Dinas Mawddwy.
Pumlumon – Sadwrn, Awst 21
YN Y DYDD: Cyfarfod am 10 y bore ym maes parcio Eisteddfa Gurrig, ar yr A44 rhwng Llangurig ag Aberystwyth.
GYDA'R HWYR: Gig Poppies, Java a Cwyn Swyddogol, 8pm, £4, Y Cwps, Aberystwyth.
Y Frenni Fawr – Sul, Awst 22
YN Y DYDD: Cyfarfod am 10 y bore wrth Siop Siân yng Nghrymych.
GYDA'R HWYR: Cwis Tafarn, Y Clwb Rygbi, £1 y person, Gwobrau da, Crymych, 8pm.
Penyfan Fawr – Llun, Awst 23
YN Y DYDD: Cyfarfod am 10 y bore wrth y Storey Arms ar yr A470, rhwng Merthyr ag Aberhonddu.
Mynydd llyn y Fan – Mawrth, Awst 24
YN Y DYDD: Cyfarfod am 10 y bore wrth Maes Parcio'r hen waith dwr yn Llanddeusant.
GYDA'R HWYR: Barbeciw, 4.30pm, £3.50 y pen, Carpenters Arms, Llangadog.
Moel Famau – Mercher, Awst 25
YN Y DYDD: Cyfarfod am 10 y bore wrth y dafarn yng nghanol Llanbedr Dyffryn Clwyd, ar yr A494.
GYDA'R HWYR: Gig Alun Tan Lan, NEB a Mr Mcphee, 8pm, £4, Clwb Rygbi, Dinbych.
Carnedd Llywelyn – Iau, Awst 26
YN Y DYDD: Cyfarfod am 10 y bore yng Ngwerngof Uchaf, hanner milltir o ben deheuol Llyn Ogwen ar yr A5.
GYDA'R HWYR:Bob Delyn a'r Ebillion a Black Mushrooms, 8pm, £5, Clwb Rygbi, Bethesda.
Yr Eifl – Gwener, Awst 27
YN Y DYDD: Cyfarfod am 10 y bore wrth y maes parcio sy’n arwain lawr at Nantgwrtheyrn.
GYDA'R HWYR: NAR, Eryr a Bob, 8pm, £4, Clwb rygbi, Pwllheli.
Yr Wyddfa – Sadwrn, Awst 28
YN Y DYDD: Cyfarfod am 10 y bore wrth fynedfa'r tren bach yn Llanberis.
GYDA'R HWYR: Gwyl y Faenol!
Pwysa yma i ddadlwytho'r ffurflen wybodaeth a'r ffurflen noddi (pdf)
Mwy yn yr un categori(au): Codi Arian
.
|