tafod.jpg hafan cymdeithas.com logo_bach_gigs_casnewydd.JPG Gigs Casnewydd 2004
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Deddf Iaith Newydd
Cymunedau Rhydd
Addysg
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Codi Arian
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Lluniau
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Taith y Copau: Awst 19 - Awst 28 2004

Deg copa mewn deng niwrnod - er mwyn codi arian i goffrau Cymdeithas yr Iaith!

Taith gerdded noddedig fydd hon yn dringo rhai o fynyddoedd enwocaf Cymru. Beth am ymuno yn y daith? Does dim rhaid i ti ddringo bob mynydd! Gelli ymuno am ddiwrnod neu ddau. Dyma gyfle gwych i gyfarfod nifer o bobl a gwneud cyfraniad pwysig i Gymdeithas yr Iaith ar yr un pryd!

logo_taith_y_copau.JPG

Beth amdani? Beth am gymryd rhan? Y cyfan sydd angen i ti wneud yw cysylltu â phrif swyddfa’r Gymdeithas a mynd ati i gasglu noddwyr! (ffurflen noddi pdf)

Post: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Llawr Gwaelod, Pen Roc, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ - Ffon: 01970 624501 - Ffacs: 01970 627122 - Ebost: swyddfa@cymdeithas.com

Yr Amserlen

Yr Aran – Iau, Awst 19
Cyfarfod am 10 y bore yn y maes parcio ym mhen pella Llanuwchllyn.

Cadair Idris – Gwener, Awst 20
Cyfarfod am 10 y bore ym maes parcio Ty Nant, dri chwarter milltir i’r de o Lyn Gwernan.

Pumlumon – Sadwrn, Awst 21
Cyfarfod am 10 y bore ym maes parcio Eisteddfa Gurrig, ar yr A44 rhwng Llangurig ag Aberystwyth.

Y Frenni Fawr – Sul, Awst 22
Cyfarfod am 10 y bore wrth Siop Siân yng Nghrymych.

Penyfan Fawr – Llun, Awst 23
Cyfarfod am 10 y bore wrth y Storey Arms ar yr A470, rhwng Merthyr ag Aberhonddu.

Cadair Arthur – Mawrth, Awst 24
Cyfarfod am 10 y bore

Moel Famau – Mercher, Awst 25
Cyfarfod am 10 y bore wrth y dafarn yng nghanol Llanbedr Dyffryn Clwyd, ar yr A494.

Carnedd Llywelyn – Iau, Awst 26
Cyfarfod am 10 y bore yng Ngwerngof Uchaf, hanner milltir o ben deheuol Llyn Ogwen ar yr A5.

Yr Eifl – Gwener, Awst 27
Cyfarfod am 10 y bore wrth y maes parcio sy’n arwain lawr at Nantgwrtheyrn.

Yr Wyddfa – Sadwrn, Awst 28
Cyfarfod am 10 y bore ym Maes Parcio Rhyd-ddu ar gyrrion deheuol y pentre.

Yn ogystal, bydd gigs yn cael eu trefnu yn ystod y daith!

Pwysa yma i ddadlwytho'r ffurflen wybodaeth a'r ffurflen noddi (pdf)

Mwy yn yr un categori(au): Codi Arian | Digwyddiadur
.

Newyddion
Cyfarfod Cyhoeddus - Y Gymraeg a'i hawliau
4 Awst, 2004
Coleg Ffederal Gymraeg ar daith
2 Awst, 2004
Apel Cymru 2020
31 Gorffennaf, 2004
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Taith y Copau: Awst 19 - Awst 28 2004
19 Awst, 2004
Rhagor...

nôl i'r brig