tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Gorsaf Radio'n bradychu pobl Sir Gâr

radio_carmarthenshire.JPG Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cylchlythyru pob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir Gaerfyrddin gan ofyn iddynt fynegi i OFCOM eu pryder fod Radio Sir Gâr wedi cefnu ar eu haddewid i gynnal gwasanaeth dwyieithog.

Yn eu cylchlythyr, mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi am y tro cyntaf destun llawn y gytundeb (wedi atodi) a dderbyniodd Radio Sir Gâr wrth gael yr hawl i ddarlledu, sef yr “Addewid o ran Cyflwyno Gwasanaeth” (Promise of Performance), ymhlith yr addewidion y mae Radio Sir Gâr wedi'u torri y mae'r ymrwymiad i ddefnyddio'r Gymraeg drwy'r dydd wrth gyhoeddi;

· tywydd
· cynllunio rhannu ceir
· swyddi sydd ar gael
· gwasanaeth busnes
· amaethyddiaeth
· ysgol yr wythnos
· clwb penblwydd

Dywed Heledd Gwyndaf (trefnydd y Gymdeithas yng Nghaerfyrddin);

“Mae'r rhestr yn ddi-derfyn o addewidion sydd wedi'u torri. Y gwir yw fod y gwasanaeth yn ystod y dydd bron yn gyfangwbl Saesneg heblaw am ambell hysbyseb amdanynt eu hunain – a hynny yn y Sir gyda'r nifer mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae'r sefyllfa ar Scarlet FM yn waeth fyth. Mae gwir angen edrych ar Radio Sir Benfro hefyd, ble mae'r Cymry Cymraeg yn y sir honno yn cael eu hanwybyddu yn llwyr!"

“Fel mudiad gyda llawer o aelodau ifainc, eu prif feirniadaeth hwy yw eu bod wedi torri eu haddewid i gynhyrchu rhaglen reolaidd yn cyflwyno cerddoriaeth leol, a'm bod yn defnyddio recordiau Saesneg yn unig yn ystod eu rhaglen nosweithiol honedig Gymraeg – yn groes i'w cytundeb sy'n galw am ddarlledu artistiaid Cymraeg."

"Mae Radio Sir Gâr yn gwbl sarhaus wrth ein diwylliant ac mae'n bryd i'w trwydded gael ei dynnu oddi arnynt am dorr-addewid. Ein gobaith yw y bydd Cynghorau lleol a llu o fudiadau yn pwyso ar OFCOM i'w disgyblu."

Darllenwch mwy ar wefan y South Wales Evening Post
Darllenwch mwy ar wefan y Carmarthen Journal
Darllenwch mwy ar wefan BBC Cymru'r Byd
Darllenwch Mwy ar wefan y Western Mail


Gorsaf Radio'n bradychu pobl Sir Gâr - 13 Medi 2004
Rhyddhau ar fechniaeth heb gyhuddiad - 25 Gorffenaf 2004
“We never have played Welsh music and we never will!” - 24 Gorffenaf 2004
Radio Carmarthenshire - Ni'n Gwrando! - 13 Mehefin 2004

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Darlledu | Newyddion
.

Newyddion
Aelodau'r Gymdeithas yn derbyn "Rhybudd Swyddogol" gan yr Heddlu ac yn ei basio ymlaen fel 'Rhybudd Olaf' i'r Llywodraeth
6 Tachwedd, 2008
Rhaid cael egwyddorion craidd Coleg Ffederal Cymraeg mewn lle
5 Tachwedd, 2008
Arestio chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg
25 Hydref, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rali: Mesur Iaith Cyflawn, CAERNARFON
6 Rhagfyr, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig