tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Lansio cyfnod o ymgyrchu gweithredol i osod 'Deddf Iaith Newydd' ar yr agenda.

deddf_iaith_newydd.gif Neithiwr (nos Wener 24/9/04), yn nhref y Fflint, dechreuodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfnod o bwyso gweithredol cyson, er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.

Dros nos bu aelodau o’r Gymdeithas yn targedu degau o gwmniau preifat – (banciau, archfarchnadoedd, arwerthwyr tai, siopau cadwyn ayb) – gan orchuddio eu ffenestri a sticeri gludiog, sydd yn gofyn ‘Ble mae’r Gymraeg?’

Gwnaed hyn er mwyn tynnu sylw at y ffaith nad yw’r Ddeddf Iaith bresennol yn cyffwrdd â’r sector breifat ac felly bod cwmniau tebyg i’r rhai a dargedwyd, yn rhydd i gynnig y mwyafrif o’u gwasanaethau trwy gyfrwng y Saesneg yn unig. Mae Senedd Cymdeithas yr Iaith yn cymeryd cyfrifoldeb am y weithred.

Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Penderfynodd Cymdeithas yr Iaith i gychwyn ar gyfnod o ymgyrchu gweithredol er mwyn ail-godi yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Dro ar ôl tro, fe welir fod cwmniau a sefydliadau yn parhau i wrthod cynnig y mwyafrif o’u gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sathru ar hawliau siaradwyr Cymraeg. Ni fydd hyn yn newid hyd nes ceir Deddf Iaith Newydd.”

Y Dyfodol

Rhwng nawr a'r Nadolig, bydd Cymdeithas yr Iaith yn mynd ati yn gyson i dargedu llu o gwmniau, mewn trefi trwy Gymru gyfan, er mwyn pwysleisio gwendidau sylfaenol Deddf Iaith 1993. Ymhellach, yn gynnar yn y flwyddyn newydd, bydd y Gymdeithas yn cynnal Fforwm Genedlaethol gyda’r nod o amlinellu yr hyn y dylid ei gynnwys mewn Deddf Iaith Newydd.

Meddai Huw Lewis:

“Bellach, mae dros ddegawd ers pasio’r Ddeddf Iaith bresennol. O ganlyniad, mae nawr yn adeg briodol i ddechrau ystyried yr angen i ddiwygio a chryfhau’r ddedfwriaeth. Yn wir, o ystyried y modd y mae preifateiddo, ynghyd â’r twf yn nylanwad technoleg, yn trawsneid y modd y caiff gwasanaethau eu cynnig, mae angen brys i wneud hyn. Os na fyddwn yn wynbeu’r her, bydd siaradwyr Cymraeg yn colli cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywydau bob dydd.

“Mae Meirion Prys Jones – Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith – wedi dweud yn gyhoeddus ei fod yn ddigon parod i ystyried yr angen am Ddeddf Iaith Newydd, os profir bod digon o dystiolaeth. O ganlyniad, dros y misoedd nesaf bydd Cymdeithas yr Iaith yn tynnu sylw, dro ar ôl tro, at y dystiolaeth sydd i’w weld ar hyd a lled Cymru.”

Stori oddi ar wefan y Daily Post
Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd

Mwy yn yr un categori(au): Clwyd | Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig