tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Carden Felen - am y tro

radio_carmarthenshire.JPGCarden Felen - dyna oedd rhybudd Ofcom i Radio Carmarthenshire ddoe (Mercher 20 Hydref). Ar ôl misoedd o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith, mi gyhoeddwyd adroddiad Ofcom ar Radio Carmarthenshire. Enillwyd dadl Cymdeithas yr Iaith felly, a chydnabyddwyd nad yw Radio Carmarthenshire yn dal at eu hochor nhw o'r fargen ble mae'r iaith Gymraeg yn y cwestiwn. Ond mae'r ymgyrch ymhell o fod ar ben!

Mae Cymdeithas yr Iaith yn awr yn gofyn am gamau pellach gan Radio Carmarthenshire ac Ofcom.

Dywedodd Hedd Gwynfor o Gymdeithas yr Iaith "Mae Radio Carmarthenshire a Keri Jones y Prif Weithredwr wedi dangos dirmyg llwyr tuag at y Gymraeg wrth beidio hyd yn oed darlledu y lleia posibl yn Gymraeg i ateb gofynion ei drwydded".

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar i'r drwydded gael ei dynnu oddi wrtho yn llwyr a'i roi i rywun sydd â gwir ddiddordeb mewn adlewyrchu, gwasanaethu a chynnal cymunedau Sir Gâr.

Dywedodd Hedd Gwynfor o Gymdeithas yr Iaith 2rhaid dangos carden goch i Keri Jones am ddangos y fath ddirmyg tuag at bobl Sir Gâr a'u hiaith. Nid brwydro am rai oriau yn fwy o Gymraeg ar orsaf yr ydym, ond yn hytrach yn brwydro yn erbyn agwedd sarhaus a rhagfarn un dyn yn erbyn y Gymraeg. Dim ond carden goch all ddelio â hyn".

Er nad yw Raido Carmarthenshire hyd yn oed yn cydymffurfio â thrwydded Ofcom, rhaid nodi nad yw'r drwydded ei hun yn ddigonol. Nid atodiad y dylai'r Gymraeg fod. Rhaid nodi'n glir a chadarn yn y drwydded fod rhaid i'r gwasanaeth Radio Lleol yn y sir hon, ble mae dros 50% o boblogaeth y Sir yn siaradwyr Cymraeg, fod â'i phrif iaith y Gymraeg.

Dywedodd Hedd Gwynfor o Gymdeithas yr Iaith; "ni fodlonwn ar ychydig o oriau yn Gymraeg bob dydd i'n cadw'n dawel chwaith. Ar y foment mae'r drwydded yn ein trin fel y dylswn fod yn ddiolchgar am ychydig oriau yn Gymraeg. Ein hawl ni ydy cael gwasanaeth sydd oleiaf yn gwbl ddwyieithog."

Bydd Cymdeithas yr Iaith felly yn cyflwyno ein Haddewid Perfformiad ein hunain i'r orsaf Ddydd Sadwrn mewn Rali tu allan i swyddfeydd Radio Carmarthenshire yn Arberth, fel rhywbeth i'r orsaf anelu ac ymdrechu tuag ato. Bydd y ddogfen hefyd yn cael ei chyflwyno i Ofcom iddyn nhw ystyried ailddrafftio termau'r drwydded i sicrhau gwir chwarae teg i'r Gymraeg ac i bobl Sir Gâr.

Mi fydd y Rali yn cael ei chynnal Ddydd Sadwrn, i ddechrau am 12, tu allan i orsaf Radio Carmarthenshire / Pembrokeshire. Y siaradwyr fydd Adam Price, Mererid Hopwood, Cefin Campbell, Steffan Cravos a Emyr Llew. Yn perfformio bydd Garej Dolwen a Mattoidz.

stori llawn oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd


Llythr gan y Gymdeithas yn gorfodi Cyngor Tref Rhydaman i sefydlu polisi iaith

Cynghorau Tref Penbre a Phorth Tywyn yn gwrthod cefnogi Ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg!

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Darlledu | Newyddion
.

Newyddion
Aelodau'r Gymdeithas yn derbyn "Rhybudd Swyddogol" gan yr Heddlu ac yn ei basio ymlaen fel 'Rhybudd Olaf' i'r Llywodraeth
6 Tachwedd, 2008
Rhaid cael egwyddorion craidd Coleg Ffederal Cymraeg mewn lle
5 Tachwedd, 2008
Arestio chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg
25 Hydref, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rali: Mesur Iaith Cyflawn, CAERNARFON
6 Rhagfyr, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig