tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Sicrhau dyfodol S4C yn hanfodol - ond rhaid gwneud yn siwr fod lle i'r Gymraeg yn y datblygiadau newydd yn y maes cyfathrebu

Ofcom a darlledu Wrth ymateb i adroddiad Ofcom ar ddyfodol darlledu yng Nghymru fe ddywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Fel y mudiad a wnaeth fwy na neb i sefydlu sianel deledu Gymraeg yn y lle cyntaf mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mynnu fod sicrhau dyfodol i S4C fel rhan o’r ddarpariaeth ddarlledu yng Nghymru yn hanfodol. Byddwn, dros yr wythnosau nesaf yn edrych yn ofalus iawn ar adroddiad Ofcom er mwyn gweld pa ddewisiadau sy’n fwyaf addas ar gyfer sicrhau dyfodol i’r sianel.

Ar yr un pryd yr ydym yn ymwybodol fod darlledu wedi newid llawer ers yr 80au ac mae’n bwysig fod y Gymraeg yn ennill ei lle ar y gwasanaethau newydd sy’n datblygu fel gorsafoedd radio lleol fel Radio Sir Gaerfyrddin, ac ar y we.

“Un peth sydd yn achosi pryder i ni fel mudiad ydy na fedrwn ymddiried yn Ofcom i warchod buddiannau’r Gymraeg yn y maes darlledu yng Nghymru. Fel y dangoswyd ar y ‘Byd ar Bedwar’ yn ddiweddar fe fethodd Ofcom a gwneud hyn yng nghyd-destun Radio Sir Gaerfyrddin. Mae sicrhau dyfodol y Gymraeg ym maes teledu yn mynd i fod yn dipyn mwy o sialens iddynt.”

Mwy yn yr un categori(au): Darlledu | Newyddion
.

Newyddion
Aelodau'r Gymdeithas yn derbyn "Rhybudd Swyddogol" gan yr Heddlu ac yn ei basio ymlaen fel 'Rhybudd Olaf' i'r Llywodraeth
6 Tachwedd, 2008
Rhaid cael egwyddorion craidd Coleg Ffederal Cymraeg mewn lle
5 Tachwedd, 2008
Arestio chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg
25 Hydref, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rali: Mesur Iaith Cyflawn, CAERNARFON
6 Rhagfyr, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig