tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Galw am resymoli cadarnhaol yn Sir Ddinbych

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi danfon e-bost at bob aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Dinbych o flaen eu cyfarfod Ddydd Mawrth pan fyddant yn ystyried y bosibiliad o gau hyd 11 o ysgolion pentre - y mwyafrif ohonynt yn rhai Cymraeg eu cyfrwng.

Yn yr e-bost, dywed y Gymdeithas ei bod yn cydnabod yr angen am resymoli yn wyneb y cwymp mewn niferoedd disgyblion. On dywedant fod "rhesymoli cadarnhaol" yn bosibl yn ogystal â rhesymoli negyddol.

"Does dim raid ymateb i'r broblem trwy'r dull negyddol a simplistaidd o gau ysgolion. Fel y dywed canllawiau'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ysgolion bychain, dylai hynny bob amser fod yn ddewis olaf. Gofynnwn i chwi benderfynu Ddydd Mawrth roi cyfnod i'ch swyddogion archwilio posibiliadau rhesymoli cadarnhaol trwy wneud defnydd mwy cost-effeithlon o'r adeiladau ysgol hyn. Gofynnwn i chi fanteisio ar y don fawr o ddiddordeb sydd rwan yn y cymunedau lleol i drafod hyn. Hoffem ni fel Cymdeithas drafod gyda chwi y dewis o gyfuno cyllidebau addysg a datblgyu cymunedol fel bod gwasanaethau addysg gymunedol, ail-hyfforddi sgiliau ac adfywiad cymunedol yn ganolog i'r ysgolion pentre. Gwyddom o brofiad mai gwell gweithio gyda chymunedau lleol na sathru ar eu dymuniadau. Fe'ch anogwn i ddal ar y cyfle i gymryd y cam cadarnhaol hwn."

Yr un pryd y mae'r Gymdeithas yn cysylltu gyda'r cymunedau tan fygythiad i rannu eu profiad o ymgyrchoedd cyffelyb yn y De ac i weld a oes potensial i sefydlu Fforwm yn Sir Ddinbych (fel ag a sefydlwyd yn Sir Gâr) i gynrychioli'r holl gymunedau sydd tan fygythiad fel eu bod yn gwneud safiad unol.

Gwefan Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gar

Dogfen Llwyddiant Ysgolion Pentre - Model ar gyfer ein Trefn Addysg yng Nghymru


Stori llawn oddi ar wefan y Daily Post

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Clwyd | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig