tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Ymgyrch yn cychwyn i Gymreigio 'Bws Caerdydd'

bwscaerdydd_bach.jpg Neithiwr, bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gweithredu yn erbyn arosfannau 'Bws Caerdydd' yn y brifddinas. Dywedodd Steffan Cravos, aelod o Ranbarth Morgannwg Gwent Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae'r amserlenni yn yr arosfannau, enwau'r arosfannau, yr amserlenni papur, tocynnau a gwefan Bws Caerdydd yn uniaith Saesneg. Cyn y Nadolig bu Cymdeithas yr Iaith yn gweithredu yn gyson yn erbyn cwmniau preifat mewn trefi a dinasoedd ar hyd a lled Cymru, ac rydym yn bwriadu parhau gyda'r ymgyrchu gweithredol! Dro ar ôl tro, fe welir fod cwmniau a sefydliadau yn parhau i wrthod cynnig eu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sathru ar hawliau siaradwyr Cymraeg. Ni fydd hyn yn newid hyd nes ceir Deddf Iaith Newydd.”

Ychwanegodd Huw Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Bellach, mae dros ddegawd ers pasio’r Ddeddf Iaith bresennol. O ganlyniad, mae nawr yn adeg briodol i ddechrau ystyried yr angen i ddiwygio a chryfhau’r ddedfwriaeth. Yn wir, o ystyried y modd y mae preifateiddo, ynghyd â’r twf yn nylanwad technoleg, yn trawsnewid y modd y caiff gwasanaethau eu cynnig, mae angen gwneud hyn ar frys. Os na fyddwn yn wynbeu’r her, bydd siaradwyr Cymraeg yn colli cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywydau bob dydd.”

BwsCaerdydd4.jpg


Mae mwy o luniau ar gael yn oriel arlein Cymdeithas yr Iaith

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Morgannwg Gwent | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig