tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Ynadon yn dweud wrth arweinwyr y Gymdeithas 'I aros tu fas!'

radio_carmarthenshire.JPG Wrth ddedfrydu 5 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ryddhad amodol am 12 mis am greu difrod troseddol yn 'Radio Carmarthenshire' fis Gorffennaf diwethaf, dywedodd Cadeirydd Ynadon Hwlffordd heddiw: "Yr ydym yn edmygu eich ymroddiad i’r iaith ond dylasech fod wedi protestio y tu allan i’r adeilad."

Ymateb Heledd Gwyndaf, is-Gadeirydd y Gymdeithas oedd,

"Pe bai Cymdeithas yr Iaith yn aros y tu fâs i sefydliadau sy'n dirmygu'r iaith Gymraeg ni fyddai neb yn cymryd sylw. Rhaid mynd ar neges i mewn atynt."

Fe'u cafwyd yn euog o greu difrod gwerth £1700 i eiddo'r cwmni radio, ac oblegyd gofynnwyd i’r 5 diffinydd (Steffan Cravos, Heledd Gwyndaf, Angharad Blythe, Llinos dafydd a Gwenno Teifi) dalu £50 o gostau llys a £150 yr un o iawndal, sef llai na hanner yr hyn y gofynnodd Radio Carmarthenshire amdano.

Yn ôl ymchwiliad gan y rhaglen deledu 'Y Byd ar Bedwar' 7% o'r siarad yn unig oedd trwy gyfrwng y Gymraeg a 93% yn Saesneg a 4 cân Gymraeg a glywyd a 260 cân Saesneg mewn diwrnod ar Radio Carmarthenshire.

Yn dilyn y rhaglen, fe ddanfonodd y Gymdeithas gwyn swyddogol arall am y sefyllfa at Ofcom. Cred Cymdeithas yr Iaith y dylai Radio lleol adlewyrchu'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu - mae dros 50% o boblogaeth Sir Gâr yn Gymry Cymraeg, dylai Radio Carmarthenshire hefyd felly ddarlledu 50% trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Ofcom wedi ymateb i ddatgan:

"yn dilyn pryderon o'r newydd gan nifer owrandawyr dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi penderfynnu monitro ymhellach i weld a ydy'r orsaf yn parhau i gydymffurfio â gofynion ei addewid."

Bydd y Gymdeithas yn parhau i ymgyrchu'n galed i sicrhau y bydd radio lleol yn Sir Gâr yn cyrraedd y nôd hwn.


Stori oddi ar wefan y Western Mail Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Darlledu | Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig