tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Targedu siopau Aberteifi, Trallwng ac Aberystwyth yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith

deddf_iaith_newydd.gifFel rhan o’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth neithiwr yn glynu sticeri ar siopau cadwyn, banciau a Chymdeithasau Adeiladu yn y dref. Roedd y sticeri hyn yn galw am 'Ddeddf Iaith Newydd' .Ymysg y siopau a dargedwyd roedd Woolworth, Barclays, Abbey, Burtons, Subway a Dorothy Perkins.etc. Roedd hyn yn dilyn ymgyrch debyg yn Aberteifi a’r Trallwng yn gynharach yn yr wythnos.

Mae’r gweithredu neithiwr yn arwydd fod y Gymdeithas wedi ail gydio yn yr ymgyrch hon dros Ddeddf Iaith a hynny ar drothwy cyfarfod cyhoeddus a drefnir gan y Gymdeithas yn yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd yn ystod Eisteddfod yr Urdd yr wythnos nesaf.

Teitl y cyfarfod fydd ‘Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle’ ac fe’i cynhelir am 3.30, Mehefin 1af yn yr Eglwys Norwyaidd Caerdydd. Y siaradwyr fydd yr Athro Colin Williams o Brifysgol Caerdydd a Huw Lewis, Catrin Dafydd a Sian Howys o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Roedd y gweithredu yn Aberteifi, Trallwng ac Aberystwythyn arwydd o benderfyniad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i weithrdu’n uniongyrchol dros Ddeddf Iaith ar drothwy y cyfarfod yng Nghaerdydd. Targedwyd y siopau cadwyn yn arbennig am ein bod am weld unrhyw ddeddfwriaeth newydd ar yr iaith Gymraeg yn ymestyn i’r sector breifat."


Stori oddi ar wefan y Daily Post
Stori oddi ar wefan y Carmarthen Journal

Mwy yn yr un categori(au): Ceredigion | Deddf Iaith | Newyddion | Powys
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig