tafod.jpg hafan cymdeithas.com pwysig-materion-cym.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Deddf Iaith - Dyma'r Cyfle!

3.30pm - Mehefin 1af
Yr Eglwys Norwyaidd - Bae Caerdydd

Cyfarfod Cyhoeddus i drafod oblygiadau sefydlu'r Dyfarnydd Iaith ynghyd a'r cyfle newydd i bwyso am Ddeddf Iaith Newydd.

Siaradwyr:
Yr Athro Colin Williams
Catrin Dafydd
Sian Howys
Huw Lewis

Mae’r cyfarfod yn dilyn y Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth ar Fawrth 12fed. Bwriad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg drwy gyfrwng y cyfarfodydd hyn yw pwyso ar Lywodraeth y Cynulliad i gyflwyno Deddf Iaith gryfach. Daeth y cyfle i wneud hynny oherwydd bwriad llywodraeth y Cynulliad i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a sefydlu Dyfarnydd Iaith. Bydd hyn yn gofyn am ddeddfwriaeth newydd a rhaid manteisio ar y cyfle sy’n cael ei gynnig i fynnu Deddf Iaith gynhwysfawr.

Yn y Fforwm Genedlaethol a drefnwyd gennym yn Aberystwyth ar Fawrth 12ed gwnaeth Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg y sylw arwyddocaol ‘nad oedd cwestiwn ynghylch pa un a fyddai Deddf Iaith a’i peidioond yn hytrach pa fath o Ddeddf Iaith?’ Oddi ar hynny yn y cylchgrawn ‘Golwg’ mae Meri Huws eto wedi galw am adolygiad o’r Ddeddf Iaith.

Mae’n bwysig nodi hefyd fod Hywel Williams Aelod Seneddol Arfon wedi paratoi drafft Fesur Deddf Iaith gafodd ei gyflwyno yn y Fforwm Genedlaethol ym Mis Mawrth ac fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno dogfen drafod newydd yn y cyfarfod yn yr Eglwys Norwyaidd sy’n seiliedig ar y trafodaethau a gafwyd yn y FForwm Genedlaethol.

Ychydig iawn o amser sydd gennym os ydym am gael y maen i’r wal a sicrhau o’r diwedd Ddeddf Iaith deilwng. Dyna pam yr ydym yn erfyn arnoch i gefnogi’r cyfarfod hwn yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd fel eich bod yn gallu cyfrannu i’r drafodaeth bwysig hon.

Pwysa yma i ddarllen mwy am Ddeddf iaith Newydd

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Eisteddfodau | Morgannwg Gwent
.

Newyddion
Iceland yn Llusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Iâ
19 Chwefror, 2009
Gig er mwyn Gasa
9 Chwefror, 2009
Llongyfarch cynghorwyr Gwynedd am eu parodrwydd i wrando
5 Chwefror, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Fforwm Agored - Ad-drefnu Ysgolion Cefn Gwlad
21 Chwefror, 2009
Can i Gasa: Steve Eaves, Gwilym Morus, Caernarfon
13 Mawrth, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig