tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Enillydd y Fedal Lenyddiaeth yn cymryd rhan mewn cyfarfod pwysig ar ddyfodol yr Iaith!

deddf_iaith_newydd.gif Bydd Catrin Dafydd - enillydd y Fedal lenyddiaeth yn yr Eisteddfod Dydd Llun, a Chadeirydd Grwp Deddf Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - yn cymryd rhan yn y cyfarfod cyhoeddus pwysicaf a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd eleni. Bydd y cyfarfod, o dan y teitl 'Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle', yn cael ei gynnal yn yr Eglwys Norwyaidd am 3.30 prynhawn dydd Mercher Mehefin 1af. Bydd y Gymdeithas yn dadlau mai nawr yw’r amser i bwyso am Ddeddf Iaith Newydd.

Gyda Catrin Dafydd ag aelodau amlwg eraill o’r Gymdeithas, bydd yr Athro Colin Williams o Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn dadlai y pwnc. Hefyd bydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn anfon cynrychiolwyr i’r cyfarfod ac mae nifer a aelodau y Cynulliad Cenedlaethol wedi dweud y byddant yno. Un arall sydd wedi anfon ei ddymuniadau gorau am lwyddiant y cyfarfod yw yr Arglwydd Gwilym Prys Davies o Bontypridd er na fydd yn gallu bod yn bresennol oherwydd gwaeledd.

Dywedodd Sian Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol yn yr ymgyrch i sicrhau Deddf Iaith newydd.Y rheswm am hynny yw bod llywodraeth y Cynulliad ar fin diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a sefydlu ‘Dyfarnydd Iaith. Er mwyn gwneud hyn bydd yn rhaid iddynt gyflwyno ddeddfwriaeth newydd ger bron y senedd. Rhaid manteisio ar y cyfle hwn i sicrhau fod deddfwriaeth rymusach fydd yn cryfhau statws y Gymraeg yng Nghymru yn cael ei gyflwyno hefyd."

"Mae’r Gymdeithas eisoes wedi trefnu un fforwm genedlaethol i drafod y mater hwn yn Aberystwyth ym Mis Mawrth lle cyflwynodd Hywel Williams AS ddrafft fesur Deddf Iaith. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw mae’r Gymdeithas wedi llunio ei dogfen ei hun ar y pwnc – Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle’ ac fe fydd copiau ar gael yn y cyfarfod yn yr Eglwys Norwyaidd."

Pwysa yma i ddarllen 'Deddf Iaith Newydd - Dyma'r Cyfle: Papur Trafod Ymgynghorol' a gafodd ei lansio yn y cyfarfod


Stori oddi ar wefan y Western Mail
Stori oddi ar wefan y Daily Post

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Eisteddfodau | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig