|
|||||
|
|
|
Cysgu ar y stryd dros Ddeddf Eiddo
Dyma fesur a gyflwynwyd gan y Gymdeithas, er mwyn ceisio ateb yr argyfwng tai sydd yn tanseilio cymunedau lleol a’r iaith Gymraeg. Yn ystod y daith – fydd yn para am wythnos – bydd aelodau’r Gymdeithas yn cysgu’r nos ar strydoedd gwahanol drefi ledled y wlad.
Y gobaith yw y bydd hyn yn fodd o bwysleisio’r graddau y mae’r argyfwng tai yn parhau i frathu ein cymunedau. Cafodd y daith ei lansio ar ddydd Sadwrn olaf Eisteddfod yr Urdd tu allan i Uned y Cynulliad ar y Maes. Y bwriad yw i ymweld â’r trefi canlynol: - Llandysul – Sul, Mehefin 5 Yn ogystal, yn ystod y daith bydd aelodau’r Gymdeithas yn casglu enwau ar ddeiseb yn galw am Ddeddf Eiddo. Pwyswch yma i lawrlwytho copi o'r ddeiseb! Meddai Huw Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith: "Mae llawer o sôn wedi bod ynglŷn â’r gwahanol broblemau tai sydd yn tanseilio ein cymunedau. Nod Cymdeithas yr Iaith yn awr yw i dynnu sylw at atebion. Mae Deddf Eiddo yn bolisi cynhwysfawr sydd yn ymdrin â phob agwedd o’r argyfwng tai ac yn ceisio mynd at wraidd y problemau hynny." "Amcan Deddf Eiddo yw i estyn elfen o reolaeth dros y farchnad dai, er mwyn diwallu anghenion pobl Cymru am dai, a thrwy hynny, cyfrannu at sicrhau cynaladwyedd cymunedau lleol a’r iaith Gymraeg." "Trwy’r gyfrwng y daith a’r gwaith o gasglu enwau ar y ddeiseb, ein gobaith yw y bydd modd casglu cefnogaeth eang i’r ymgyrch dros Ddeddf Eiddo." Rali Tryweryn – Deddf EiddoBydd yr wythnos o ymgyrchu yn cyrraedd ei benllanw ar ddydd Sadwrn Mehefin 11, gyda’r rali yn galw am Ddeddf Eiddo a gynhelir ar lan Llyn Celyn. Ymhlith y siaradwyr yn y rali, bydd Elfyn Llwyd – Aelod Seneddol Meirionydd Nant Conwy. Meddai Huw Lewis: "O bosib, hanes boddi Cwm Celyn, ger y Bala, yw’r enghraifft enwocaf o gymuned leol Gymraeg yn colli’r hawl i reoli ei dyfodol ei hun. Erbyn heddiw, mae ein cymunedau yn cael eu bygwth gan rym o fath gwahanol – grym anweladwy y farchnad dai. O ganlyniad,dyma leoliad addas ar gyfer rali yn galw am Ddeddf Eiddo." Stori oddi ar wefan North Wales Weekly News Mwy yn yr un categori(au):
Ceredigion
|
Cymunedau Rhydd
|
Newyddion
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||
| nôl i'r brig | ||||