tafod.jpg hafan cymdeithas.com pwysig-materion-cym.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Colli Capel Celyn - Colli'n Cymunedau Cymraeg

capel_celyn.jpg Fe ddaeth 200 o bobl i Rali a gynhaliwyd heddiw ar lan Llyn Celyn ger y Bala. Rhybuddiodd Siaradwyr yn ystod y Rali mai dyma yw ein cyfle ymarferol olaf i gynnal cymunedau Cymraeg hyfyw. Nodwyd os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, ni fydd yr un gymuned naturiol Gymraeg ar ôl erbyn y flwyddyn 2020.

O bosib, hanes boddi Capel Celyn ger y Bala yw’r enghraifft enwocaf o gymuned leol Gymraeg yn colli’r hawl i reoli ei dyfodol. Roedd Llyn Celyn, felly, yn leoliad addas iawn i’r rali o ystyried neges o’r fath.

Galiwyd ar bobl i gefnogi’r alwad am Ddeddf Eiddo i Gymru. Dyma fesur a fyddai’n cynnig ateb i’r argyfwng tai sydd yn tanseilio cymaint o’n cymunedau Cymraeg. Meddai Huw Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith:

"Hwn yw ein cyfle ymarferol olaf i sicrhau dyfodol i gymunedau Cymraeg hyfyw. Dyma dasg sydd o bwys i bawb yng Nghymru, ble bynnag yr ydym yn byw."

"Os ydy’r tueddiadau presennol yn parhau, ni fydd yr un gymuned naturiol Gymraeg ar ol erbyn y flwyddyn 2020. Ar hyn o bryd, mae llawer o’n cymunedau yn sefyll ar yml dibyn. Dros y blynyddoedd nesaf, mae peryg iddynt golli llawer o’u hadnoddau pwysicaf – eu siopau lleol, eu hysgolion ac wrth gwrs eu tai – gan adael y cymunedau hynny mewn sefyllfa cwbwl anghynaladwy. Ychydig o amser sydd gennym ac felly mae galw am ymgyrchu gwleidyddol brys."

"Er mwyn cynnig dyfodol i’n cymunedau, mae’n hanfodol ein bod yn lleddfu effeithiau’r argyfwng tai. Ateb Cymdeithas yr Iaith i’r argyfwng tai yw Deddf Eiddo – mesur sy’n ymdrin a phob agwedd o’r argyfwng, boed hynny’n brisiau tai afresymol, datblygiadau tai niweidiol neu ddiffyg darpariaeth o dai ar rent."

Penllanw ar wythnos o ymgyrchu!

Roedd y rali heddiw yn benllanw ar wythnos o ymgyrchu dros Ddeddf Eiddo. Yn ystod yr wythnos, bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn ymweld a nifer o drefi ledled Cymru, gan gasglu enwau ar ddeiseb sy’n galw am Ddeddf Eiddo. Yn ogystal, roedd yr aelodau yn cysgu’r nos ar strydoedd y trefi hynny er mwyn pwysleisio difrifoldeb yr argyfwng tai.


Stori oddi ar wefan North Wales Weekly News
Stori oddi ar wefan y Daily Post (Mehefin 13)
Stori oddi ar BBC Cymru'r Byd (Mehefin 11)
Stori oddi ar wefan y Daily Post (Mehefin 11)

Mwy yn yr un categori(au): Cymunedau Rhydd | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Iceland yn Llusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Iâ
19 Chwefror, 2009
Gig er mwyn Gasa
9 Chwefror, 2009
Llongyfarch cynghorwyr Gwynedd am eu parodrwydd i wrando
5 Chwefror, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Fforwm Agored - Ad-drefnu Ysgolion Cefn Gwlad
21 Chwefror, 2009
Can i Gasa: Steve Eaves, Gwilym Morus, Caernarfon
13 Mawrth, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig