tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Cysgu ar y stryd

taith_bala_01.JPG

Nos Wener fe fues i a deg o aelodau'r Gymdeithas yn cysgu mas ar y stryd yn y Bala. Rhan o daith Deddf Eiddo oedd hyn, a ddechreuodd Nos Sul y 5ed o Fehefin.

Ers hynny mae aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas wedi bod yn cysgu'n arw ar strydoedd Cymru - yn Llandysul, Aberystwyth, Pwllheli, Caernarfon, Rhuthun a'r Bala.

Pwrpas hyn oedd tynnu sylw at ddifrifoldeb sefyllfa’r farchnad dai lle mae cymunedau a'r iaith Gymraeg o dan fygythiad, ac i alw am ddeddf Eiddo. Mae Huw Lewis a Dewi Snelson wedi bod ar y daith ers wythnos ac angen bath ac eilliad!

Mae'r Gymdeithas wedi llwyddo i gasglu dros 2000 o lofnodion mewn llai nag wythnos ac mae'r ymateb wedi bod yn hynod o gadarnhaol gan aelodau'r cyhoedd.

Ar ôl i nifer o Bala-wa's meddw neidio ar ein pennau fe lwyddais i fynd i gysgu cyn dihuno am bump yn y bore yn rhythu achos doedd dim sach gysgu da fi.

Diolch i Siôn am ddod a thost a the i ni'r noson honno ac am roi creision ŷd a phaneidiau i ni yn y bore.

Mwy yn yr un categori(au): Blog Steffan
.

Newyddion
Croesawu parodrwydd Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd i weithio gydag ysgolion a chymunedau lleol
20 Mai, 2008
Rhodri Glyn yn taflu llwch i lygaid Pobl Cymru
8 Mai, 2008
Peidiwch gadael i'r datblygwyr twyllo'r Cyngor
8 Mai, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
GIG: Heather Jones, Al Lewis, Sweet Baboo, DJ Dyl Mei CAERDYDD
22 Mai, 2008
Cyfarfod "Cadwn Ein Hysgolion Pentrefol Cymraeg", Eisteddfod yr Urdd
26 Mai, 2008
Lansiad ymgyrch "Mynnwn Goleg Cymraeg, nid Cwango arall", Eisteddfod yr Urdd
28 Mai, 2008
Mae'r 'sgrifen ar y mur! O ddifrif am y Gymraeg!, Eisteddfod yr Urdd
30 Mai, 2008
BEDROC 2008: Dafydd Iwan, Hanner Pei - BEDDLLWYNOG
20 Mehefin, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig