tafod.jpg hafan cymdeithas.org baner-bach-munud-i-ddathlu.jpg . pwysig-hannercant.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Dyfodol Digidol
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Hanner Cant
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Llafur yn gwrthod trafod argyfwng tai.

bawd_deddf_eiddo.jpg Dydd Mercher yma (Gorffennaf 6), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal lobi dros Ddeddf Eiddo yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mewn cyfarfod ffurfiol a drefnir yn un o ystafelloedd pwyllgor y Cynulliad, bydd y mudiad yn ceisio hybu trafodaeth ar gynnwys ei dogfen Deddf Eiddo – dogfen bolisi sy’n ceisio cynnig atebion i’r problemau tai difrifol sydd yn tanseilio dyfodol cymunedau led led Cymru.

Eto i gyd, ar drothwy’r cyfarfod lobio, mae’r Gymdeithas wedi ei syfrdanu gan amharodrwydd Aelodau Cynulliad y Blaid Lafur i gymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth. Tra bod yr ymateb o bob un o’r pleidiau eraill wedi bod yn gymharol bositif, hyd yn hyn, nid yw dim un o’r Aelodau Cynulliad Llafur wedi cytuno i fynychu’r cyfarfod. Meddai Huw Lewis, ar ran grwp Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith:

"Ar hyn o bryd, un o'r ffactorau amlycaf sydd yn tanseilio dyfodol cymunedau ledled Cymru yw'r argyfwng tai. O ganlyniad i brisiau eiddo afresymol a’r diffyg difrifol mewn darpariaeth o eiddo ar rent, mae unigiolion a theuluoedd yn eu miloedd yn colli'r cyfle i gael cartref yn eu cymunedau lleol."

"Dyma broblem gymdeithasol ddifrifol, sydd bellach yn effeithio ar bob cymuned yng Nghymru. Yn sgil maint y broblem, mae galw am drafodaeth eang a chynhwysol sy'n rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r gwahanol atebion y gellid eu cynnig."

"Yn wir, dylai’r ffaith fod y broblem yn cyfrannu’n sylweddol at sefyllfa fregus yr iaith Gymraeg fod yn gymhelliad pellach i wleidyddion a gwneuthurwyr polisi i chwilio am atebion priodol."

"Mae’r fath o ymateb gan yr Aelodau Cynulliad Llafur yn atgyfnerthu ymhellach y ddelwedd o blaid lywodraethol hunangyfiawn, sy’n amharod i drafod hyd yn oed rhai o’r problemau cymdeithasol mwyaf difrifol sydd yn wynebu Cymru heddiw."

· Caiff y cyfarfod lobio Deddf Eiddo ei gynnal am 1pm ar ddydd Mercher, Gorffennaf 6 yn Ystafell Gynhadledd A yn y Cynulliad Cenedlaethol.
· Caiff y cyfarfod ei drefnu mewn cydweithrediad gyda Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion.

Mwy yn yr un categori(au): Cymunedau Rhydd | Morgannwg Gwent | Newyddion
.

Newyddion
Rali Wylfa B: Brwydr teulu yn frwydr dros gymunedau Cymraeg
21 Ionawr, 2012
Jonathan Edwards AS a Rhodri Glyn Thomas AC yn cefnogi'r galwadau dros ddatganoli darlledu i Gymru
18 Ionawr, 2012
Gig 'Hanner Cant' - Tocynnau cyntaf yn mynd ar werth
17 Ionawr, 2012
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Saunders Lewis a'r mudiad iaith heddiw - Dr John Davies
8 Chwefror, 2012
Hyfforddiant Sianel 62 - Caerdydd
11 , 2012
Tynged yr iaith yng nghwmni Ned Thomas a Bethan Williams
13 Chwefror, 2012
Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg-Gwent
21 Chwefror, 2012
Defnyddia Dy Dafod: Cwrs Cymraeg Amgen - Blaenau Ffestiniog
21 Ebrill, 2012
Gwyl Hanner Cant - Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr
13 Gorffennaf, 2012
Dathlu 50 mlynedd o'n mudiad - Cyfarfod Cyffredinol Arbennig
15 Medi, 2012
Defnyddia Dy Dafod: Cwrs Cymraeg Amgen - Tresaith
19 Hydref, 2012
Rhagor...

nôl i'r brig