Lobi Deddf Eiddo
12.30 – Dydd Mercher – Gorffennaf 6
Y Cynulliad Cenedlaethol, Bae Caerdydd
Ar ddechrau Gorffennaf, bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn mynd â’r alwad dros Ddeddf Eiddo at Aelodau’r Cynulliad. Mewn cyfarfod ffurfiol a drefnir yn un o ystafelloedd pwyllgor y Cynulliad, bydd cyfle i gyflwyno ein dadleuon ac ymateb i gwestiynau’r gwleidyddion.
Dyma ddigwyddiad sydd wedi ei drefnu mewn cydweithrediad â Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion.
Beth am gynorthwyo gyda’r trefniadau? Cysylltwch gyda’ch Aelod Cynulliad lleol gan ofyn iddynt i wneud ymdrech i fod yn bresennol yn y cyfarfod lobio ar Orffennaf 5.
Pwysa yma er mwyn lawrlwytho copi o lythr (pdf) y gellir ei ddanfon at dy Aelod Cynulliad yn galw arno i ddod i’r lobi.
Danfona’r llythr at dy Aelod Cynulliad i:
Y Cynulliad Cenedlaethol
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Pwysa yma am restr o Aelodau’r Cynulliad a’u hetholaethau
Pwysa yma i ddarllen mwy am Ddeddf Eiddo
Mwy yn yr un categori(au): Cymunedau Rhydd
| Digwyddiadur
.
|