tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

13 yn Rif Lwcus i Ffans Anweledig

Anweledig Fel arfer mae’r rhif 13 yn cael ei ystyried yn anlwcus ond i’r gwrthwyneb fydd hi i ddilynwyr y band Anweledig yn gig Cymdeithas yr Iaith ym Mangor ar nos Iau yr Eisteddfod eleni. Gwefan Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Mae Anweledig wedi bod yn un o gewri y sîn roc Gymreag ers iddyn nhw ffurfio ym Mlaenau Ffestiniog 13 o flynyddoedd yn ôl. Yn ystod yr amser hwn, maent wedi dod yn enwog am gymeriad hwyliog, chwareus a lliwgar eu perfformiadau sydd bob amser wedi diddanu ac, ar adegau, syfrdanu.

Yn unol â’u traddodiad o fynd yn groes i’r graen, mae’r band wedi penderfynu dathlu y garreg filltir draddodiadol anlwcus hon drwy berfformio un can o’u heiddo o bob blwyddyn ers 1992. Meddai Ceri Cunnington, prif leisydd enigmataidd Anweledig:

Roedden ni’n awyddus i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol eleni, felly mi benderfynon ni y buasen ni’n perfformio ein hoff gan ni o bob blwyddyn rydan ni wedi bod efo’n gilydd mewn trefn gronolegol. Gobeithio bydd pobl yn mwynhau cael clywed rhai caneuon na fyddwn ni’n eu gwneud yn aml iawn erbyn hyn - dwi’n sicir yn edrych ymlaen i’w perfformio nhw!

Mae Anweledig wedi dod yn bell iawn ers y dyddiau cynnar hynny ddechrau’r nawdegau a’r gig cyntaf yn Aelwyd yr Urdd, Blaenau Ffestiniog. Meddai Owain Schiavone, Swyddog Adloniant Cymdeithas yr Iaith:

Mae Anweledig yn fand sydd wedi esblygu’n gerddorol yn gyson, o’u dyddiau roc cynnar, i arddulliau mwy arloesol i’r sîn Gymraeg fel ska a reggae. Bydd hwn yn gyfle gwych i ddilyn y llwybr cerddorol mae Anweledig fel band wedi ei droedio ac i glywed yr holl anthemau poblogaidd mewn un noson. Heb os, bydd y gig yma yn nglwb nos Amser yn un o uchafbwyntiau wythnos yr Eisteddfod eleni: mae am fod yn anhygoel!

Yn ogystal ag Anweledig, bydd y noson hefyd yn gyfle i glywed eraill o berfformwyr byw mwyaf egnïol Cymru. Yn cefnogi ar y noson bydd Ashokan, Eryr, Rasputin, Cofi Bach a Tew Shady, y Llofruddion a Kenavo – fydd yn lansio eu EP newydd ar y noson gyda’r 200 copi sydd wedi eu gwneud yn cael eu rhoi i ffwrdd am ddim.

Mwy yn yr un categori(au): Adloniant | Eisteddfodau | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig