tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Brwydr y Bandiau yn cyrraedd ei uchafbwynt!

Mattoidz
Bydd cyfle i weld pump o fandiau ifanc mwyaf addawol Cymru ar nos Fawrth yr Eisteddfod pan fydd ffeinal Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn cael ei chynnal yng nghlwb nos Amser ym Mangor. Gwefan Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Dros yr wythnosau diwethaf cynhaliwyd pum rhagbrawf mewn gwahanol ardaloedd o Gymru i dorri’r 27 band roddodd eu henwau ymlaen ar gyfer y gystadleuaeth i lawr i’r pum terfynnol. Y rhai a ddaeth i’r brig ac a fydd yn cystadlu am y teitl o fand mwyaf addawol 2005 ynghyd a pecyn o wobrau sy’n cynnwys gig ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod, sesiwn recordio gyda C2 a chyfle i ryddhau CD ar label Rasal yw:

NEB (Yr Wyddgrug)
Jen Jeniro (Llanrwst)
Y Derwyddon (Caernarfon)
Tangwystl (Caerfyrddin)
Y Strêts (Bangor)

Meddai Ffion Mai, aelod o Bwyllgor Adloniaint Cymdeithas yr Iaith a threfnydd y gystadleuaeth:

Mae’r gystadleuaeth eleni wedi bod yn un gyffrous dros ben, gyda mwy o fandiau yn cystadlu nag erioed o’r blaen sydd yn newyddion gwych i ddyfodol y Sin Roc Gymraeg. Gyda cymaint o dalent allan yna, mae’n bechod bron fod rhaid dewis rhwng y bandiau, ond mewn cystadleuaeth mor gryf ma’r pump sydd wedi dod i’r brig yn fandiau o safon a photensial uchel iawn – heb os bydd y ffeinal nos Fawrth yn noson i’w chofio.

Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn am 8:00y.h. yng nglwb nos Amser ac yn cael ei dilyn gan gig gyda Drumbago ac Ummh. Y beirniaid fydd Huw Stephens (Radio Cymru) ac Aled Ifan (Rasal). Bydd cyfle arall i weld y band buddugol yn Amser ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod pan fyddant yn cael y fraint o gefnogi Meic Stephens, Alun Tan Lan a Gilespi.

Mwy yn yr un categori(au): Adloniant | Eisteddfodau | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig