tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Protest i roi’r angen am Ddeddf Iaith ar ben yr agenda wleidyddol.

deddf_iaith_newydd.gif Heddiw, Ddydd Mawrth, Awst yr ail, am ddau o’r gloch, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal protest ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol er mwyn rhoi’r angen am Ddeddf Iaith ar ben yr agenda wleidyddol. Fe fydd y brotest yn dechrau gyda Elin Jones, Aelod Cynulliad dros Geredigion yn annerch y tu allan i stondin Cymdeithas yr Iaith.

“Cafodd galwad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am Ddeddf Iaith Newydd hwb ychwanegol ddoe pan ddatganodd yr Arglwydd Gwilym Prys Davies ei gefnogaeth i’r angen am Ddeddf Iaith,” dywedodd Catrin Dafydd, Cadeirydd y Grwp Deddf Iaith.

Dywedodd Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,

“Trwy ymprydio am wythnos ar faes yr Eisteddfod mae Ffred Ffransis hefyd yn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd gynhwysfawr a fydd yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg, ac yn sicrhau hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd yng Nghymru”

Fe fydd y brotest yn galw heibio stondin Cyllid y Wlad, ac yn dod i ben y tu allan i stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru lle bydd Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Catrin Dafydd, cadeirydd Grwp Deddf Iaith y Gymdeithas yn annerch.

CEFNDIR

Mae'r brotest heddiw yn rhan o ymgyrch arbennig 'Cymru 2020' Cymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Mae'n rhybuddio na fydd unrhyw gymunedau Cymraeg ar ol erbyn 2020 os na weithredir yn syth ar 3 ffrynt - Deddf Iaith yw un o'r ffryntiau hyn. Y 2 arall yw galw ar y Cynulliad i
fynnu Deddf Eiddo, a galw ar gyrff cyhoeddus yn yr ardaloedd Cymraeg i gyflawni'u gwaith i gyd yn Gymraeg. Cafodd Pamffled 'Cymru 2020' ei lansio yn gynharach yn yr wythnos, ac i bwysleisio difrifoldeb y sefyllfa, mae nifer o aelodau'r Gymdeithas yn mynd heb rhywbeth pwysig iddynt yn ystod wythnos yr Eisteddfod dan y teitl 'Dychmygwch Gymru heb y Gymraeg.

ffred_a_rhodri.jpg
Ffred Ffransis yn hyrwyddo'r syniad o Ddeddf Iaith Newydd i Rhodri Morgan ar y Maes heddiw.


Stori oddi ar wefan ITV Wales
Stori oddi ar wefan BBC Cymru
Stori oddi ar wefan BBC Wales
Stori oddi ar wefan Y Western Mail
Stori 1 oddi ar wefan Y Daily Post
Stori 2 oddi ar wefan Y Daily Post
Stori oddi ar wefan y South Wales Evening Post

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Eisteddfodau | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig