Argyfwng Tai - Enghraifft arall o fethiant Llywodraeth y Cynulliad
Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir am 2 o’r gloch prynhawn yma (Mercher 3/8/05), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn tynnu sylw at enghraifft arall o agwedd ddi-hid Llywodraeth y Cynulliad tuag at ddyfodol ein cymunedau Cymraeg. Y pwnc trafod y tro hwn fydd yr argyfwng tai, sydd yn tanseilio rhagolygon cymaint o gymunedau ledled y wlad.
Bydd y Gymdeithas yn tynnu sylw at y ffaith fod gwariant Llywodraeth y Cynulliad ym maes tai wedi disgyn o ddeg miliwn ers 1999 a hynny mewn cyfnod pan welwyd cynnydd aruthrol mewn prisiau tai ac eiddo.
Meddai Huw Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith:
"Mewn cyfnod pan welwyd bod prisiau tai wedi codi ymhell allan o gyrraedd pobl leol, gan olygu bod miloedd yn colli’r cyfle i gael gafael ar gartrefi addas yn eu cymunedau, byddai rhywun yn disgwyl i lywodraeth gyfrifol i ymateb trwy o leiaf ddarparu cyllid cyhoeddus er mwyn ceisio lleddfu’r broblem. Yn wir, o ystyried fod yr argyfwng tai yn cyfrannu cymaint at danseilio hyfywedd ein cymunedau Cymraeg, dylai fod brys ychwanegol i weithredu’r Llywodraeth."
Yn ogystal a thynnu sylw at fethiannau Llywodraeth y Cynulliad, bydd y Gymdeithas yn defnyddio’r cyfarfod i dynnu sylw at atebion posib i’r argyfwng tai. gelwir ar bobl i gefnogi’r alwad am Ddeddf Eiddo i Gymru ac i ymuno yn yr ymgyrchu. Mae Deddf Eiddo yn fesur sy’n ymdrin a phob agwedd o’r argyfwng tai, boed hynny’n brisiau tai afresymol, diffyg darpariaeth o dai ar rent neu ddatblygiadau niweidiol o dai.
Ychwanegodd Huw Lewis:
"Yn sgil agwedd ddi-fater y Llywodraeth, mae mawr angen ymgyrchu brys. Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, ni fydd yr un gymuned naturiol Gymraeg ar ol erbyn y flwyddyn 2020."
"Galwn ar Eisteddfodwyr i roi cychwyn ar yr ymgyrchu yr wythnos hon, trwy arwyddo ein deiseb Genedlaethol dros Ddeddf Eiddo. Ymhellach, galwn arnynt i barhau gyda’r ymgyrchu yn eu cymunedau lleol wedi’r Eisteddfod, trwy gasglu enwau pellach at y ddeiseb ac hefyd trwy fynychu’r rali dros Ddeddf Eiddo a gynhelir yng Nghaernarfon ar ddydd Sadwrn Hydref 29."
Nodion Cefndir
• Erbyn 2004 cyfartaledd prisiau tai yng Ngwynedd wedi cyrraedd o £126,777 Dyma gynnydd o 148.8% ers 1997. (Papur Ymchwil Tai 2004 – Cyngor Gwynedd)
• Ers 1999 fe welwyd cwymp o ddeg miliwn yng ngwariant Llywodraeth y Cynulliad ar y Grant Tai Cymdeithasol – cynllun sydd a’r nod o ‘helpu i ddarparu tai y gellir eu fforddio.’ Ym 1999 darparwyd £61.8 miliwn, ond erbyn 2004 dim ond £51.6 miliwn oedd ar gael. (Ystadegau Tai Llywodraeth y Cynulliad)
• Ers rhai wythnosau mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn casglu enwau ar ddeiseb genedlaethol dros Ddeddf Eiddo. Bydd y gawith hwn o gasglu enwau yn dod i ben mewn rali a gynhelir ar y Maes yng Nghaernarfon ar Hydref 29, 2005.
Mwy yn yr un categori(au): Cymunedau Rhydd
| Eisteddfodau
| Newyddion
.
|