Galwad am ‘ail chwyldro’ i Addysg ol-16
Mewn dogfen a gaiff ei lansio ar faes yr Eisteddfod heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am ‘ail chwyldro’ i wneud y sgil i ddefnyddio’r Gymraeg yn hafodol i holl addysg ol-16 yn yr ardaloedd Cymraeg.
Mae’r Papur Polisi 'Cymraeg yn Hanfodol' yn dadlau na ddylai unrhyw fyfyriwr yng Ngholegau Menai, Meirion-Dwyfor, Ceredigion a Sir Gar gael ei asesu’n gadarnhaol heb ei fod yn dangos y gallu i drin ei waith yn Gymraeg gan fod hwn yn sgil addysgol o bwys fel Technoleg Gwybodaeth.Wrth lansio’r ddogfen, meddai llefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred Ffransis:
"Ar ddechrau’r ddegawd ddiwethaf, bu’r hen Golegau Technegol hyn bron yn uniaith Saesneg er eu bod yn hyfforddi myfyrwyr ar gyfer bywyd a gwaith mewn cymunedau Cymraeg. Yn dilyn ymgyrchu dwys yn y nawdegau, dechreuwyd cynnig ystod o gyrsiau’n Gymraeg, ond y mae’r mwyafrif fyfyrwyr yn dewis gwneud eu gwaith yn Saesneg oherwydd traddodiad yn y sector hwn a diffyg adnoddau i addysgu’n effeithiol yn Gymraeg."
"Os yw ein cymunedau Cymraeg i fyw heibio’r flwyddyn 2020, mae angen ar frys ail chwyldro i wneud y Gymraeg bellach yn hanfodol i bob cwrs gan bob myfyriwr yn y colegau hyn."
"Yn union fel y mae Technoleg Gwybodaeth yn sgil hanfodol – ac ni byddai neb yn cael dewis rhwng cynhyrchu gwaith ar gyfrifiadur neu’i gyflwyno mewn llawsysgrifen bler – felly hefyd y mae’r gallu i weithio’n Gymraeg yn sgil hanfodol yn siroedd Gwynedd, Mon, Ceredigion a Chaerfyrddin."
"Dyma’r colegau sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer meysydd fel gofal, bancio a gweinyddu swyddfeydd a’r holl wasanaethau eraill y mae eu hangen yn Gymraeg os yw’r cymunedau Cymraeg hyn i barhau."
Yn ystod y prynhawn heddiw, bydd cynrychiolwyr o nifer o’r colegau hyn yn trafod y ddogfen gyda Chymdeithas yr Iaith mewn cyfarfod preifat yn uned y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod.
Mwy yn yr un categori(au): Addysg
| Eisteddfodau
| Newyddion
.
|