tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Amddifadu plant o addysg Gymraeg.

Howells Bydd cynrychiolaeth o Gymdeithas yr Iaith yn protestio gyda rhiant heddiw, o flaen Ysgol Breifat Howell i ferched yn Ninbych ar ddiwrnod derbyn disgyblion newydd. Byddwn yn tynnu sylw at y ffaith fod ysgolion preifat yng Nghymru’n cael amddifadu’u disgyblion yn gyfangwbl o addysg Gymraeg ac o bob elfen o’r cwricwlwm Cymreig. Nid oes lle i drefn o’r fath yn y Gymru gyfoes.

Byddwn yno hefyd i ddangos cefnogaeth i Meryl Harrison o Fetws-y-Coed y mae ei merch yn cael ei danfon – trwy orchymyn llys – i ffwrdd o addysg Gymraeg yn Nyffryn Conwy i fyd hollol Saesneg Ysgol Howell.

Er mwyn peidio â gwneud y diwrnod agoriadol yn brofiad rhy drawiadol i’r disgyblion ifainc newydd, byddwn yn cyfyngu ein protestwyr i ddirprwyaeth o chwech.

DIWEDDARAF

Fe wnaeth chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg (gan gynnwys Meryl Harrison, rhiant y disgybl tan sylw) gynnal piced tua allan i brif fynedfa ysgol Howells am ddwy awr heddiw, ar ddiwrnod derbyn disgyblion newydd. Dosbarthiwyd taflenni i'r rhieni ac i'r staff, a glynnwyd posteri 'Addysg Gymraeg!' ar gatiau'r ysgol.

Fe ddanfonodd prifathrawes yr ysgol y gofalwr at y picedwyr i ofyn iddynt symud gan nad oedd, yn ei geiriau hi, "yn adlewyrchu'n dda ar yr ysgol.", a bygythiwyd alw'r heddlu.

Yn ddiweddarach, cynhaliodd Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith, yn ogystal a Meryl Harrison, gyfarfod gyda prifathrawes yr ysgol. Addawodd y brifathrawes y byddai yn trosglwyddo cais Mrs Harrison (bod ei disgybl yn derbyn addysg Gymraeg) i'r Llywodraethwyr, ond nododd na fyddai'r ysgol yn newid polisi oherwydd cwyn gan 1 rhiant! Nododd hi hefyd nad oedd unrhyw rheidrwydd ar yr ysgol i osod y Gymraeg fel cwrs sylfaen, gan ei fod yn ysgol breifat.

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Clwyd | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig